Gwrandawiad dymchwel tai i greu siopau Aberystwyth
- Cyhoeddwyd

Mae gwrandawiad wedi ei ddechrau ddydd Mawrth i benderfynu os dylai cartref dynes yn Aberystwyth gael ei ddymchwel i wneud lle ar gyfer siopau newydd.
Mae bwriad i ddymchwel 12 o dai ar Ffordd Glyndŵr, ond mae un sy'n byw yno, Enid Jones, 58, yn gwrthod gwerthu ei chartref hi.
Byddai dymchwel y tai yn gwneud lle i siopau Tesco a Marks & Spencer newydd ar safle faes parcio Stryd y Felin.
Roedd cyngor Ceredigion wedi rhoi gorchymyn prynu gorfodol ar gartref Mrs Jones ym mis Mai'r llynedd.
Ddydd Mawrth, clywodd y gwrandawiad y dystiolaeth gan y cyngor.
Ddydd Mercher, mae disgwyl i wrthwynebwyr roi eu barn.
Bydd yr arolygwr cynllunio, Sian Worden yn gwneud argymhelliad, ond Llywodraeth Cymru fydd yn gwneud y penderfyniad terfynol yn dilyn y gwrandawiad yn swyddfeydd y cyngor yn y dref.
Dywedodd yr ymgynghorydd cynllunio a datblygu, Glyn Pritchard-Jones, sy'n cynrychioli Mrs Jones: "Mae Mrs Jones yn credu y gall y datblygiad Tesco gael ei gwblhau heb angen dymchwel tai ar Ffordd Glyndŵr.
"Mae hi'n parhau i wrthwynebu dymchwel ei chartref."
Fel rhan o'r cynllun, byddai adeiladau eraill hefyd yn cael eu dymchwel, gan gynnwys canolfan ddydd, neuadd a garej wag.
Gall y siopau agor erbyn Rhagfyr 2016 yn ôl y cyngor, ac mae'n dweud y bydd y datblygiad yn hybu economi'r dref o rwng £1.6m a £3.5m bob blwyddyn.
Dywedodd adroddiad y cyngor y byddai'r siopau yn creu 295 o swyddi llawn amser.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd13 Tachwedd 2013
- Cyhoeddwyd31 Gorffennaf 2012
- Cyhoeddwyd15 Tachwedd 2011