Llofruddiaeth: Dyn gerbron Llys y Goron
- Cyhoeddwyd
Ffynhonnell y llun, Heddlu Dyfed Powys
Cafwyd hyd i gorff Patricia Anne Durrant ar Fawrth 3
Mae dyn sydd wedi ei gyhuddo o lofruddio menyw yn Llandysul wedi ymddangos yn Llys y Goron am y tro cyntaf.
Mae James Blair Hamilton, 59 oed o Landysul, wedi ei gyhuddo o lofruddio Patricia Ann Durrant, 65 oed ar Fawrth 3.
Cafwyd hyd i'w chorff yn Stryd Fawr Llandysul.
Ymddangosodd Mr Hamilton gerbron y Barnwr Keith Thomas yn Llys y Goron Abertawe ar gyswllt fideo o garchar y ddinas.
Nid oedd galw ar Mr Hamilton i bledio yn y gwrandawiad ddydd Mawrth.
Cafodd ei gadw yn y ddalfa tan y gwrandawiad nesaf yn yr achos ar Fehefin 13. Mr Ustus Wyn Williams fydd y barnwr yn y gwrandawiad hwnnw.
Straeon perthnasol
- 6 Mawrth 2014
- 5 Mawrth 2014
- 3 Mawrth 2014