Dadorchuddio esgyrn hanesyddol ym Mro Morgannwg
- Cyhoeddwyd

Mae esgyrn dynol yn dyddio'n ôl i'r canol oesoedd wedi eu darganfod ar glogwyni yn yr As Fawr (Monknash) ym Mro Morgannwg, yn dilyn erydiad tir yno ar ôl y tywydd garw diweddar.
Mae archeolegwyr wedi bod yn cloddio ers 1982 ar safle lleol sydd yn dyddio'n ôl rhwng y 14eg a'r 16eg ganrif.
Yn y darganfyddiad diweddaraf daeth archeolegwyr o hyd i ddau asgwrn coes oedd wedi eu dadorchuddio ar y clogwyni.
Penglog, dannedd ac esgyrn
Fe ddaethon nhw o hyd i weddillion penglog, dannedd ac esgyrn hefyd.
Y gred ydy fod y cyrff wedi dod o feddau o fynwent answyddogol, ac un ddamcaniaeth yw mai cyrff morwyr oedd wedi boddi oedd y rhai a gafodd eu claddu yn y safle.
Yn ôl Richard Lewis o Ymddiriedolaeth Archeolegol Morgannwg-Gwent, un ddamcaniaeth arall ydy mai gweddillion pobl oedd yn rhy dlawd i gael eu claddu ym mynwent gyfagos Eglwys Santes Fair yw'r esgyrn sydd wedi dod i'r golwg.
"Mae'r clogwyn yn rhydd iawn. Mae'n dywodlyd iawn" meddai Mr Lewis.
'Anodd dadorchuddio deunydd'
"Mae'n anodd iawn dadorchuddio deunydd yno. Mae'n rhaid defnyddio angorau tir sydd yn dal ein harcheolegwyr uwchlaw'r clogwyni. Mae'n debyg iawn i abseilio" meddai.
Gobaith yr ymddiriedolaeth ydi denu nawdd gan CADW er mwyn cynnal archwiliad trylwyr o'r safle hanesyddol uwchben y traeth.
Daeth y gweddillion diweddaraf i sylw'r ymddiriedolaeth ar ôl derbyn galwad gan swyddogion o Orsaf Heddlu'r Bari.
Aeth yr ymddiriedolaeth ati i gael trwydded arbennig gan y Weinyddiaeth Gyfiawnder i ddadorchuddio'r gweddillion.
Gweddillion Llongddrylliad
Dafliad carreg o'r safle mae effaith y tywydd garw wedi dadorchuddio gweddillion llongddrylliad ger Southerndown.
Mae gwaith yn cael ei gynnal ar hyn o bryd i geisio dyddio ac adnabod gweddillion y llongddrylliad yma.