Cyngor Powys i reoleiddio gwerthwyr tai Prydain
- Cyhoeddwyd
Mae Cyngor Powys wedi ei ddewis i reoleiddio safonau masnach diwydiant gwerthu tai Prydain gyfan o fis Ebrill ymlaen.
Cafodd cais Cyngor Powys i reoleiddio safonau masnach gwerthwyr tai Prydain ei dderbyn gan Lywodraeth San Steffan.
Roedd y gwaith wedi cael ei gynnig gan y llywodraeth mewn proses dendro i chwech o gynghorau Prydeinig, a chynghor Powys ddaeth i'r brig.
O fis Ebrill ymlaen fe fydd rheoleiddiwr y diwydiant gwerthu tai, y Swyddfa Masnachu Teg, yn dod i ben.
Yn unol â'r ddeddf
Yn ei le y cyngor o Gymru fydd yn rhedeg y Tîm Safonau Masnach Gwerthu Tai drwy Brydain.
Gwaith cynghor Powys fydd sicrhau fod gwerthwyr tai trwy Brydain yn gweithredu yn unol â Deddf Gwerthwyr Tai 1979.
Bydd swyddogion safonau masnach trwy Brydain yn ymchwilio i achosion yn lleol ac os oes lle i gredu fod gwerthwyr tai yn gweithredu'n groes i'r ddeddf, bydd yr achos y cael ei gyfeirio at gyngor Powys.
Fe fydd gan y cyngor hawl i roi gwaharddiadau neu rybuddion ffurfiol i werthwyr tai sydd wedi gweithredu'n groes i'r ddeddf.
Dywedodd y Cynghorydd John Powell, aelod y cabinet sydd yn gyfrifol am safonau masnach yng Nghyngor Powys: ''Roedd hon yn broses gystadleuol gyda chwe gwasanaeth safonau masnach yn cynnig rhedeg y gwasanaeth rheoleiddio pwysig yma.
''Rydym yn nodi ein llwyddiant wrth lwyddo i ddod â'r gwasanaeth yma dan ofal y cyngor ac fe fydd yn cryfhau enw da'r cyngor.''
£170,000
Bydd Cyngor Powys yn derbyn £170,000 y flwyddyn am dair blynedd i redeg y cynllun fydd yn cael ei ariannu gan Lywodraeth San Steffan.
O Ebrill 1 ymlaen bydd Cyngor Powys yn:
• cadw rhestr gyhoeddus o orchmynion rhybuddio neu waharddiadau i werthwyr tai;
• rhedeg cynlluniau i gwsmeriaid sydd â chwynion am werthwyr tai;
• cynnig cyngor penodol i fusnesau a chwsmeriaid am eu hawliau yn unol â'r Ddeddf Gwerthwyr Tai;
Dywedodd Jenny Willott, Gweinidog Materion Cwsmeriaid San Steffan: ''Bydd Cyngor Powys yn gweithredu'r un ffordd ag y mae y Swyddfa Masnachu Teg yn gweithredu ar hyn o bryd. Bydd yr Ombwdsmon Eiddo yn dal i weithredu mewn achosion pan mae anghydfod yn codi ac fe fydd Cyngor Powys yn gweithredu ceisiadau cwynion yn y dyfodol fel mae'r Swyddfa Masnachu Teg yn ei wneud ar hyn o bryd.
"Fydd y gwasanaeth ddim yn cael ei redeg mewn ffordd wahanol, dim ond gan gorff gwahanol.''
Ond nid pawb sydd yn fodlon gyda'r newidiadau i'r drefn.
Dywedodd Stella Creasy, llefarydd y Blaid Lafur ar faterion cwsmeriaid: ''Dwi'n cwestiynu mewn cyfnod pan mae ganddon ni bryderon cynyddol am waith gwerthwyr tai a yw'n gywir i rymoedd monitro dros Gymru a Loegr gael eu trosglwyddo i un corff safonau masnach yng Nghymru.''
Mewn datganiad dywedodd Adran Busnes, Arloesedd a Sgiliau San Steffan: ''Mae'r math yma o reoleiddio, gyda chyngor yn rhedeg tîm yn bodoli yn effeithiol yn barod mewn meysydd fel benthyca arian yn anghyfreithlon. Felly nid ydyw'n anarferol.''