Creithiau'n parhau
- Cyhoeddwyd

30 mlynedd ers dechrau Streic y Glowyr, mae'r anghydfod yn dal i fwrw cysgod dros gymunedau ledled Cymru.
Un ardal sy'n dal i deimlo'r creithiau yw Cwm Gwendraeth, yn Sir Gaerfyrddin.
Bydd rhaglen arbennig gan BBC Cymru nos Fercher, 'Y Streic: Cysgod Cynheidre', yn clywed sut y gwnaeth penderfyniad rhai glöwyr yn hen bwll glo Cynheidre i ddychwelyd i'w gwaith hollti'r gymuned a chreu rhwygiadau sy'n dal i'w gweld heddiw.
Yn 1984 roedd Pwll Cynheidre yn cyflogi 1,300 o weithwyr.
Er bod y mwyafrif helaeth o'r glowyr yno yn gefnogol iawn i'r streic, roedd carfan fach yn erbyn gweithredu.
'Scab'
Un o arweinwyr y garfan yn erbyn oedd Philip Jones o Bontyberem.
Wedi wyth mis ar streic fe benderfynodd ef ac 16 o gydweithwyr groesi'r llinell biced ym mis Tachwedd 1984.
"Mae'n rhaid i ddyn edrych ar ôl ei hunan a'i deulu, ac os na edrychwch chi ar ôl y teulu, beth gwell yw camaraderie," meddai.
Dywedodd ei fod yn disgwyl trafferth oherwydd ei benderfyniad, ond roedd hi'n adeg anodd iddo fe a'r teulu, meddai.
"Oedd pethau fel 'SCAB' wedi eu paentio ar wal y tŷ, ond wfft i hynna. O'n i'n gallu byw gyda hynna."
Erbyn dechrau 1985, roedd tua 90 o lowyr Cynheidre wedi dychwelyd i'w gwaith.
Dros flwyddyn ar ôl dechrau gweithredu, roedd 90% o'r glowyr a dorrodd y streic ar draws de Cymru yn gweithio yng Nghynheidre.
'Torcalonnus'
Roedd Dorian Davies yn löwr ifanc yn ei ugeiniau adeg y streic, ac yn un o'r selogion ar y llinell biced.
30 mlynedd yn ddiweddarach, mae'n dal yn teimlo'n flin gyda rheiny a dorrodd y streic.
"Mae 'na bobol bydden i ddim yn siarad gyda nhw o hyd. Mae 'na bobol groesen ni'r hewl i beidio siarad â nhw," meddai.
"Mae'r math o waith y'ch chi'n gwneud dan ddaear yn meddwl eich bod chi'n dibynnu ar y bobl chi'n gweithio gyda nhw - yn trystio nhw - cyn bod chi'n gallu teimlo'n ddiogel yn eich gwaith.
"Roedd meddwl am fynd nôl i'r gwaith gyda phobol oedd wedi torri'r cytundeb yna'n dorcalonnus."
Fe gaeodd pwll Cynheidre yn 1989, ond parhau mae effeithiau'r streic.
"Eith y creithiau ddim," meddai Philip Jones. "Unwaith mae craith 'na, dyw hi ddim yn mynd i unman. Fwy na thebyg fydd y graith 'na, fel mae'r Sais yn dweud - 'til my dying day."
Bydd rhaglen 'Y Streic: Cysgod Cynheidre', gyda Garry Owen, i'w gweld ar S4C am 9:30yh nos Fercher.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd10 Mawrth 2014
- Cyhoeddwyd3 Ionawr 2014