Ffrwgwd clwb nos: Heddlu'n apelio
Mae heddlu'n apelio am wybodaeth yn dilyn ffrwgwd yng nghlwb nos Paradise ym Mhontardawe yn ystod oriau mân fore Sul, Mawrth 9.
Fe ddigwyddodd y ffrwgwd tua 1.45am, pan ddechreuodd anghydfod rhwng criw o bobl.
O ganlyniad, fe gollodd menyw 49 oed ran o'i bys.
Fe gafodd nifer o bobl eraill eu hanafu yn ogystal.
Meddai'r Ditectif Arolygydd Mark Kavanagh: "Roedd 'na tua 200 o bobl yn y clwb nos Sadwrn tan yr oriau mân pan ddigwyddodd y ffrwgwd.
"Ry'n ni'n apelio ar unrhyw un welodd y digwyddiad i gysylltu â'r heddlu, gan y gallai llawer o dystion posib fod wedi gadael y clwb cyn siarad gyda swyddogion neu adael eu manylion gyda ni.
"Mae dynes wedi dioddef anaf difrifol i'w llaw, ac rwy'n annog unrhyw un sydd gan wybodaeth am be' ddigwyddodd i roi gwybod i ni."
Gall unrhyw un â gwybodaeth gysylltu â'r heddlu ar 101 neu ffonio Taclo'r Tacle yn ddienw ar 0800 555 111 a nodi'r cyfeirnod 1400078182.