Gwahardd ysmygu ar feysydd chwarae ysgolion Sir Gâr
- Cyhoeddwyd
Bydd Cyngor Sir Caerfyrddin yn gwahardd ysmygu mewn meysydd chwarae ysgolion ac mewn parciau, er mwyn diogelu plant rhag effeithiau mwg ail- law.
Mae bwrdd gweithredol y cyngor wedi cymeradwyo'r cynllun ac ar ddiwrnod dim ysmygu (Mawrth 12), maen nhw wedi gofyn i blant ddylunio posteri er mwyn apelio ar ysmygwyr i beidio tanio sigaret pan mae plant gerllaw.
Mae'r cyngor yn gobeithio yn y dyfodol byddan nhw'n gallu ymestyn y gwaharddiad i gynnwys ardaloedd y tu allan i ysgolion, canolfannau hamdden, a thraethau.
Maen nhw'n gobeithio y bydd cynghorau tref a chymuned yn dilyn eu hesiampl trwy weithredu'r gwaharddiad yn eu parciau nhw hefyd.
Dywedodd y Cynghorydd Jim Jones, sy'n gyfrifol am warchod y cyhoedd: "Mae meysydd chwarae di-fwg yn golygu na fydd plant yn wynebu'r risg o anadlu mwg ail-law.
"Tra bod cyflwyno'r gwaharddiad yma yn gam beiddgar, rydym yn ei weld fel y cam cyntaf i wneud llefydd lle mae plant yn ymgynnull yn fwy diogel ac yn lanach."
Wrth gyflwyno'r gwaharddiad mae'r cyngor yn gobeithio bydd plant yn dysgu bod ysmygu yn niweidiol.
Mi fydd y poster gorau gan ddisgyblion blwyddyn chwech yn cael ei ddefnyddio i hyrwyddo'r gwaharddiad.
Straeon perthnasol
- 5 Chwefror 2014
- 14 Mawrth 2012