Eryr Aur coll yn cael ei weld ar Fynydd Llanllwni
- Cyhoeddwyd

Mae math o Eryr, sydd ddim wedi byw yng Nghymru ers 1850, wedi ei weld yn Sir Gaerfyrddin ddydd Mawrth.
Cafodd yr Eryr Aur ei weld ar Fynydd Llanllwni gan grŵp o feicwyr brynhawn ddydd Mawrth.
Dywedodd yr RSPB ei fod yn debyg mai aderyn dof oedd hwn, yn hytrach nac un gwyllt.
Dywedodd Heddlu Dyfed Powys nad oedd unrhyw adroddiadau o Eryr ar goll.
Ar un adeg, byddai'r adar i'w gweld ar hyd sawl ardal yn y DU, ond diflannon nhw o Gymru a Lloegr erbyn 1850 oherwydd hela yn ôl yr RSPB.
Dyw'r Eryrod ond i'w gweld yn wyllt mewn mannau o'r Alban erbyn hyn.
Dywedodd yr RSPB: "Mae'n debyg bod yr aderyn yma wedi dianc yn hytrach na'i fod yn un gwyllt.
"Maen nhw'n aml yn cael eu cadw gan hebogyddion, neu mewn canolfannau adar ysglyfaethus felly mae'n debyg bod hwn wedi llwyddo i ddianc gan ei berchennog."