Angen cyngor cliriach i athrawon am wefannau cymdeithasol
- Cyhoeddwyd

Mae undebau athrawon yn dweud bod angen cyfarwyddyd cliriach ar gyfer athrawon ynglŷn â defnyddio gwefannau cymdeithasol.
Mi ddangosodd ffigyrau ar gyfer Cyngor Addysgu Cyffredinol Cymru y llynedd fod 5 o'r 21 achos oedd wedi ymddangos o flaen panel disgyblu yn ymwneud gyda chyfathrebu ar wefannau fel Facebook.
Ar gyfartaledd, dros y pum mlynedd diwethaf, roedd tua un ym mhob 10 achos yn ymwneud gyda chyfryngau cymdeithasol. Ond mae'r undebau yn dweud bod y broblem yn llawer iawn mwy na hynny.
Cyngor côd ymddygiad Cyngor Addysgu Cyffredinol Cymru ydy y dylai athrawon "wneud yn siwr bod unrhyw gyfathrebu gyda disgybl yn briodol, gan gynnwys cyfathrebu trwy gyfryngau electroneg, fel ebost, anfon neges destun a gwefannau cymdeithasol".
Ond dyw'r NUT, yr NASUWT na'r ATL ddim yn meddwl bod y cyngor yna yn ddigon clir.
Sawl achos
Yn y blynyddoedd diwethaf mae na nifer o achosion wedi bod sydd yn cynnwys athrawon gafodd eu cosbi am gyfathrebu gyda disgyblion ar wefannau cymdeithasol.
Yn 2012 cafodd Elizabeth Scarlett ei cheryddu gan y Cyngor Addysgu am sylwadau ar Facebook ynglŷn ag yfed a phartïo. Cafodd y sylwadau eu gweld gan ddisgyblion yn yr ysgol lle oedd hi'n gweithio, sef Ysgol Gynradd Trinant yng Nghrymlyn.
Gan ddefnyddio'r wefan mi ddywedodd wrth gyn disgybl: "Mi ddylet ti ddod i ngweld i neu hyd yn oed yn well mi allwn ni fynd allan am ddiod neu fynd i glwb nos.
"Dw i'n berson gwahanol iawn tu allan i'r ysgol. Dw i'n joio mynd amdani mewn parti. Dw i jest fel unrhyw un arall. Dw i'n yfed, rhegi... ond paid â dweud wrth neb."
Fis Rhagfyr diwethaf cafodd athrawes arall, Lisa Manship ei gwahardd rhag dysgu am 18 mis. Mi benderfynodd y panel fod negeseuon roedd hi wedi anfon at ddisgybl 17 oed ynglŷn â "hympio" bachgen yn anaddas. Roedd hi'n athrawes yn Ysgol Gyfun Cwm Rhymi.
Ond dyw llawer o achosion ddim yn cyrraedd y Cyngor Addysgu am fod yr ysgolion yn delio gyda nhw eu hunain.
Cyngor cliriach
Mae Stuart Williams o NUT Cymru ac mae'n aml yn mynd i golegau hyfforddi athrawon i'w rhybuddio o beryglon cyfryngau cymdeithasol. Mae o'n credu bod angen canllawiau mwy penodol.
"Mi fydden ni yn hoffi i bethau fod yn ddu a gwyn, dim llwyd. Os ydy o yn ymddangos yn llwyd o ran ymddygiad proffesiynol yna dw i'n meddwl bod angen i ni edrych ar rywbeth sydd yn dweud wrthyn nhw yn union beth gawn nhw wneud a'r hyn na chawn nhw wneud. Mae'r canllawiau yna- ond mi allen nhw fod yn fwy llym."
Mae'r NASUWT hefyd yn teimlo dylai'r canllawiau fod yn fwy caeth. Maen nhw'n dweud y gellid dadlau bod y côd ymddygiad gan y Cyngor Addysgu yn esgusodi ac efallai yn annog cyfathrebu gyda disgyblion trwy ddefnyddio cyfryngau cymdeithasol.
Dywedodd Philip Dixon o ATL Cymru: "Mae'r cynnydd aruthrol yn y cyfryngau cymdeithasol yn y blynyddoedd diwethaf wedi golygu bod y ffiniau rhwng bywyd personol a phroffesiynol yn aneglur.
"Mae côd ymddygiad ymhob proffesiwn yn stryglo i fod yn gyfredol. Ein cyngor ni i aelodau yw peidio rhoi dim ar Facebook na fydden nhw yn fodlon rhoi ar wal yr ystafell athrawon. Ond mae angen mwy na llinyn mesur a'r gobaith yw y bydd y Cyngor Gweithlu Addysgu a fydd yn disodli Cyngor Addysgu Cyffredinol Cymru yn delio gyda'r holl fater o ymddygiad addas a hynny ar frys."
Dim "rhestr negyddol"
Yn ôl y Cyngor Addysgu mi wnaethon nhw gynnal ymgynghoriad eang cyn cyhoeddi'r côd cyntaf proffesiynol ynglŷn ag ymddygiad yn 2001. Cafodd y côd ei adolygu yn 2010.
Dywedodd Hayden Llywellyn, dirprwy brif weithredwr y cyngor, eu bod wedi ceisio adlewyrchu barn yr undebau pan aethon nhw ati i lunio'r côd.
"Mae Cyngor Addysgu Cyffredinol Cymru wastad yn agored i'r posibilrwydd o weithio gydag undebau athrawon er mwyn hybu safonau uchel o ymddygiad proffesiynol. Rydyn ni yn croesawu eu galwadau am gyngor cliriach ynglŷn â chyfryngau cymdeithasol mewn perthynas â'r côd.
"Ond mi fyddai gwneud hynny yn golygu y byddai perygl i ni wrth-ddweud y cyngor neu'r polisiau sydd yn bodoli mewn ysgolion unigol neu gynghorau. Hefyd wrth lunio'r côd roedden ni yn awyddus i adlewyrchu'r hyn roedd yr undebau yn ei ddweud, sef nad oedden nhw eisiau i'r côd fod yn rhestr negyddol o bethau i beidio gwneud."
Mi fydd y côd presennol yn cael ei adolygu yn rhan o fesur Addysgu Cymru. Mae Llywodraeth Cymru yn dweud y bydd y mesur hwnnw yn cael ei gyflwyno ym mis Ebrill ar ôl cael sêl bendith y Frenhines.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd3 Rhagfyr 2013
- Cyhoeddwyd7 Chwefror 2012
- Cyhoeddwyd30 Mai 2013