Morecambe 4- 1 Casnewydd
- Cyhoeddwyd

Mi sgoriodd Tom Naylor ar gyfer Casnewydd
Morecambe 4- 1 Casnewydd
Colli gwnaeth Casnewydd yn erbyn Morecambe nos Fawrth er ei bod nhw ar y blaen yn yr hanner cyntaf.
Tom Naylor sgoriodd ar gyfer Casnewydd o'r gornel. Ond mi gafodd gerdyn coch a'i anfon o'r cau yn nechrau'r ail hanner.
Mi gymerodd Morecambe fantais o'r cyfle gyda chic o'r smotyn yn golygu bod y sgor yn gyfartal. Jamie Devitt gafodd y gôl. Daeth un arall bum munud wedyn gan Kevin Ellison a dwy arall gan Jack Redshaw.
Mae'r canlyniad yn golygu bod Casnewydd nawr yn y 13eg safle.