Carcharu gŵr am oes am lofruddio'i wraig

  • Cyhoeddwyd
Kelvin NewtonFfynhonnell y llun, Wales News Service
Disgrifiad o’r llun,
Clywodd y llys bod Kelvin Newton yn ŵr "treisgar a chenfigennus" oedd wedi rheoli ei wraig, Assia, yn ystod eu 23 mlynedd o briodas.

Mae gŵr cenfigennus o Ben-y-bont ar Ogwr wedi cael ei garcharu am leiafswm o ddeunaw mlynedd am lofruddio'i wraig wedi iddi gwrdd â dyn arall pan oedd hi ar ei gwyliau.

Roedd Kelvin Newton, 45 oed, wedi tagu ei wraig gyda thennyn ci yn eu cartref ger Pencoed yn 2012.

Roedd Assia Newton, 44 oed ac yn fam i bedwar o blant, wedi dweud ei bod hi eisiau ysgariad ar ôl cyfarfod dyn arall pan oedd hi ar ei gwyliau yn Twinisia.

Roedd Assia a'i gŵr yn byw mewn tai ar wahan ar y pryd.

Roedd Assia yn bwriadu hedfan draw i gwrdd â'i chariad, oedd yn weinydd yn Tiwnisia, am y trydydd tro o fewn dau fis pan gafodd ei llofruddio yn ei llofft gyda thennyn ci ar Orffennaf y 14eg.

Dywedodd y Barnwr Eleri Rees: "Roedd y llofruddiaeth hwn yn deillio o'ch cenfigen rhywiol o wybod ei bod hi'n bwriadu eich gadael".

Fe'i dedfrydwyd i garchar am oes gydag argymhelliad y dylai aros yno am o leiaf 18 mlynedd cyn gallu ceisio am barôl.

Ffynhonnell y llun, Wales News Service
Disgrifiad o’r llun,
Roedd Assia Newton wedi cwrdd â dyn arall tra ar wyliau yn Tiwnisia.

Roedd y ferch ieuengaf, Sameera, 17 oed, wedi dweud wrth yr heddlu fod Newton yn rheoli ei mam a'i fod wedi newid ar ôl dod i wybod am y berthynas newydd gyda'r gweinydd o'r enw Mohammed.

Dywedodd: "Roedd Dad yn mynd yn genfigennus bob tro roedd Mam yn cael unrhyw sylw gan ddyn ac fe fyddai'n mynd o'i go - roedd o'n ei rheoli.

Shirley Valentine

"Fe jociodd Mam ei bod fel Shirley Valentine ac fe ddywedodd wrth Dad am y gweinydd ar ôl yr ail wyliau.

"Oedd e fel 'se fe wedi newid ar ôl hynny a stopiodd hi rhag cael unrhyw arian - dim ond talu digon i gadw to uwch ein pennau," meddai Sameera.

Clywodd Llys y Goron Caerdydd bod Assia wedi ymweld â Thiwnisia am y tro cyntaf ym mis Mehefin y llynedd wedi iddi fynd yno ar wyliau gyda'i merch Sophia i ddathlu ei phen-blwyddyn 18 oed.

Fe ddychwelodd Assia yno ar ei phen ei hun bythefnos yn ddiweddarach a dechrau perthynas o bell gyda Mohammed, gyda galwadau dyddiol dros y we.

Roedd hi ddiwrnodau i ffwrdd o fynd ar ei thrydydd gwyliau i gwrdd â'i chariad newydd pan gafodd ei lladd.

Gŵr "treisgar a chenfigennus"

Dywedodd ei merch hynaf, Charmaine, 23 oed, bod ei mham yn "hapus" bod rhywun yn bod yn garedig wrthi ar ôl dioddef degawdau o drais yn ei phriodas 23 mlynedd.

Dywedodd Charmaine: "Roedd Mam yn siarad am Mohammed bob dydd wedi ei hail daith."

"Roedd yn gwrando arni hi ac roedd hi yn hapus bod rhywun yn talu sylw neis ati."

Dywedodd bod ei thad wedi bod yn "dreisgar, yn ei rheoli hi ac yn genfigennus" tuag at ei wraig drwy gydol eu priodas.

Roedd wedi sôn wrth y llys ei bod wedi treulio'i phlentyndod yn cuddio yn ei llofft tra bod ei thad yn chwalu'r ty yn ddarnau "unwaith y mis" mewn dadlau treisgar.

Dywedodd Charmaine nad oedd ei mham fel arfer yn ateb Newton yn ôl - ond ei bod wedi dechrau "sefyll i fyny drosti'i hun" yn y misoedd cyn ei marwolaeth.

"Roedd o'n ei rheoli hi a doedd o ddim yn hoffi hi'n cael unrhyw ffrindiau na'n mynd allan i'r unlle. Doedd o erioed wedi bod yn neis iddi."

Roedd Newton yn rhedeg cwmni adeiladu ei hun ac roedd wedi cael ei weld ar gamerau CCTV yn gyrru ei lori i dy ei wraig ar bnawn Sul, Gorffennaf 14.

Roedd Assia gartref ei hun pan gyrhaeddodd Newton a lladd ei wraig mewn ffit o dymer.

Clywodd y llys ei fod wedi cael ei weld ar gamerau CCTV o dŷ cymydog, yn mynd i mewn i'r tŷ - ac yn gadael i gael set arall o ddillad i newid o'r lori.