Apêl bosib i Idris Ali yn achos y 'corff yn y carped'

  • Cyhoeddwyd
Idris Ali
Disgrifiad o’r llun,
Fe gafwyd Idris Ali yn euog yn 1994.

Mae dyn ddaru gyfaddef iddo lofruddio merch y cafwyd hyd i'w gweddillion mewn carped 25 mlynedd yn ôl wedi cael ei wahodd i apelio yn erbyn ei ddedfryd.

Fe gafwyd Idris Ali, 48 oed, yn euog o lofruddio Karen Price, 15 oed, wedi iddi ddiflannu o gartref plant yng Nghaerdydd ym 1981.

Fe gafodd yr euogfarn honno ei dileu wedi apêl ym 1994, ac mewn achos llys newydd fe blediodd yn euog i gyhuddiad o ddynladdiad.

Roedd yr achos wedi cael ei gyfeirio oherwydd pryderon am y technegau a ddefnyddiwyd gan Heddlu De Cymru yn eu hymchwiliad.

Roedd y Comisiwn Arolygu Achosion Troseddol (CCRC) wedi dweud bod ganddyn nhw bryderon am honiadau bod plismyn wedi delio â phrif dystion yn llawdrwm ac wedi torri rheolau'r heddlu.

Cyfeirio achos Charlton i'r llys Apêl

Mae'r gwahoddiad yn dod wedi i ddedfryd Alan Charlton am lofruddiaeth Karen Price gael ei gyfeirio i'r Llys Apêl.

Fe ddaeth yr achos i gael ei adnabod fel un y y "corff yn y carped" wedi i weddillion ei chorff gael eu darganfod wedi'u rowlio mewn carped yng ngardd bloc o fflatiau.

Fe ddiflannodd Karen Price, y ferch 15 oed, o gartref plant yng Nghaerdydd ym 1981.

Disgrifiad o’r llun,
Fe ddiflannodd Karen Price, y ferch 15 oed, o gartref plant yng Nghaerdydd ym 1981.

Fe gafodd esgyrn Karen eu darganfod ar Ragfyr 7, 1989, wyth mlynedd wedi iddi hi ddiflannu.

Roedd ei chorff mewn bedd bas a gweithwyr ddaeth o hyd iddo, rhai oedd yn tyllu yng nghefn bloc o fflatiau ar Fitzhamon Embankment yng Nghaerdydd lle roedd ei fflat.

Wedi i sawl ymgais i'w hadnabod fethu, fe aeth Richard Neave o Brifysgol Manceinion, ati i ailgreu ei hwyneb o glai.

Fe adnabyddwyd Karen wedi'r ailgreu a drwy gymharu samplau DNA gyda'i rheini.

Roedd Alan Charlton o Bridgwater, Gwlad yr Haf, yn byw ar yr un stryd pan aeth hi ar goll.

Disgrifiad o’r llun,
Fe gafodd Alan Charlton ei ddedfrydu i garchar am oes ym 1991

Yn Llys y Goron Caerdydd fe gafodd Charlton garchar am oes ar Chwefror 26, 1991, am leiafswm o 15 mlynedd, ond mae'n parhau yn y carchar o hyd.

Yn 1994, fe apeliodd Charlton yn erbyn y ddedfryd ynghyd â'i gyd-amddiffynydd Idris Ali o Birchgrove yng Nghaerdydd, oedd yn buteinfeistr ar Karen.

Fe fethodd apêl Charlton ond fe gafodd dedfryd Ali ei ddileu ac fe orchmynwyd y dylid cael achos newydd, lle y plediodd yn euog i ddynladdiad ac fe gafodd ei ryddhau o'r carchar.

Achosion enwog

Yn dilyn ymchwiliad hir, mae'r comisiwn wedi cyfeiro achos Charlton i'r Llys Apêl gan fod "posibilrwydd cryf y bydd y llys yn dileu'r euogfarn."

Mae 'na bryderon wedi bod am ymddygiad Heddlu De Cymru yn yr wythdegau a'r nawdegau.

Dywedodd y comisiwn fod nifer o swyddogion oedd yn gysylltiedig â'r achos hwn wedi bod yn ymchwilio i ddau achos a arweiniodd at gamweinyddu cyfiawnder - llofruddiaethau Lynette White a Philip Saunders.

Mae'r comisiwn wedi sôn am eu pryderon hefyd wrth Gomisiwn Cwynion Annibynnol yr Heddlu, Prif Gwnstabl Heddlu'r De ac Arolygiaeth Cwnstabliaeth Ei Mawrhydi.

Dydd Mercher, dywedodd llefarydd: "Mi fedrwn ni gadarnhau, yn sgil ailgyferio euogfarn Charlton i'r Llys Apêl, rydym wedi gwahodd Mr Idris Ali i wneud cais mewn cysylltiad â'i euogfarn o ddynladdiad."

Yn dilyn ailgyfeiriad achos Charlton, dywedodd Jan Williams o Gomisiwn Cwynion Annibynnol yr Heddlu fod cyfeirio'r achos hwn i'r Llys Apêl yn "codi cwestiynau pwysig am ymddygiad Heddlu De Cymru yn ystod yr 1980au a'r 1990au

Disgrifiad o’r llun,
Fe gafodd corff Karen ei ddarganfod wyth mlynedd wedi iddi ddiflannu mewn bedd bas

"Yn ngoleuni ystyriaethau am achosion tebyg eraill, mae hyn yn amlwg yn codi cwestiynau difrifol am hyder y cyhoedd yng ngonestrwydd yr heddlu yr adeg honno.

"Rydym yn disgwyl felly i Heddlu De Cymru edrych ar yr holl dystiolaeth oddi wrth y Comisiwn Arolygu Achosion Troseddol, gwneud penderfyniad a chofnodi a chyfeirio unrhyw faterion am ymddygiad efallai ddaw i'r golwg, ac a fyddai wedyn o bosib angen ymateb Comisiwn Cwynion Annibynnol yr Heddlu."

Mae Prif Gwnstabl Heddlu De Cymru, Peter Vaughan, wedi dweud: "Rydym yn nodi bod y Comisiwn Arolygu Achosion Troseddol wedi cyfeirio dedfryd Alan Charlton am lofruddiaeth Karen Price at y Llys Apêl.

"Yng ngoleuni'r ailgyfeiriad, rhaid i ni adael i'r broses gyfreithiol gymryd ei chwrs ac felly ni fedrwn roi ymateb pellach ar hyn o bryd."