Seiclo: Geraint Thomas ar y blaen
- Cyhoeddwyd
Mae'r seiclwr Geraint Thomas bellach yn gwisgo'r siwmper felen yn ras feicio Paris-Nice yn Ffrainc.
Gorffennodd Thomas yn ail yn y pedwerydd cymal o Nevers i Belleville ddydd Mercher, ond roedd hynny'n ddigon i'w roi ar y blaen yn y ras gyfan.
Tom Jelte Slagter enillodd y cymal, ond mae yntau'n drydydd yn y ras gyfan bedair eiliad yn unig y tu ôl i Thomas gyda John Degenkolb rhwng y ddau.
Gydag enillydd ras y llynedd Richie Porte yn tynnu allan o'r ras ychydig cyn y dechrau, Thomas sydd wedi cael y cyfrifoldeb o arwain Team Sky yn y ras.
Cyn y pedwerydd cymal ddydd Mercher, roedd Thomas wedi awgrymu y byddai'n canolbwyntio ar rasys aml-gymalog - fel y Tour De France er enghraifft - yn hytrach na rasys byrrach yn ystod 2015.
Dydd Iau bydd y pumed cymal yn teithio o Crêches-sur-Saône i Rive-de-Gier.
RAS FEICIO PARIS NICE - Diwedd Cymal 4 o Nevers i Belleville :-
1. Geraint Thomas (SKY)
2. John Degenkolb (GIA) - + 3 eiliad
3. Tom-Jelte Slagter (OGE) - + 4 eiliad