AS yn cael ei "dynnu oddi ar ddyn ifanc"

  • Cyhoeddwyd
Nigel EvansFfynhonnell y llun, Reuters
Disgrifiad o’r llun,
Roedd Mark Famosa wedi gweld Nigel Evans yn "closio at ddyn ifanc... yn anghyfforddus o agos"

Mae cyn gynghorydd gyda'r blaid Geidwadol wedi dweud wrth y llys ei fod wedi gweld dyn ifanc yn ceisio ymrafael a rhyddhau ei hun o afael yr Aelod Seneddol Nigel Evans ar noson allan yn Blackpool.

Dywedodd Mark Famosa wrth Lys y Goron Preston ei fod wedi gorfod gwthio Mr Evans oddi ar y dyn mewn bar gwesty yng Nghynhadledd y Blaid Geidwadol yn 2003.

Fe ofynnodd i gydweithiwr be oedd yn mynd ymlaen ac fe ddywedwyd wrtho "dyna Nigel i ti".

Mae'r AS dros Ribble Valley - sy'n wreiddiol o Abertawe - yn gwadu un cyhuddiad o dreisio, dau gyhuddiad o ymosod yn anweddus a chwech o ymosod yn rhywiol.

Mae'r cyhuddiadau yn gysylltiedig ag achosion yn cynnwys saith o ddynion, yn dyddio'n ôl i'r cyfnod rhwng 2002 a 2013.

'Anghyfforddus o agos'

Dywedodd Mr Famosa wrth y rheithgor ei fod wedi gweld Mr Evans yn "closio ac yn closio at y dyn ifanc, yn anghyfforddus o agos yn fy marn i, a bod ei drwyn bron yn cyffwrdd â thrwyn y dioddefwr.

"Ro'n i'n bwriadu cael Mr Evans oddi arno, fe dynnais o i ffwrdd a'i wthio tua'r bar", meddai.

Wrth gael ei groesholi, fe awgrymwyd bod Mr Famosa wedi creu'r holl stori a'i fod ond wedi dod ymlaen pan gafodd Mr Evans ei arestio.

Fe atebodd gan ddweud: "Dwi 'di dweud wrthoch chi be welais i."

Fe ofynnwyd iddo a oedd yn mwynhau ei foment o sylw, ac fe atebodd nad oedd hynny'n wir.

Ar y pryd, roedd Mr Evans, 56 oed, yn llefarydd yr wrthblaid ar Gymru.

'Gor-gyfeillgar ac amhriodol'

Clywodd y rheithgor bod Conor Burns, AS Gorllewin Bournemouth, "wedi gweld canlyniad" yr ymosodiad honedig.

Dywedodd Mr Burns wrth y llys nad oedd yn y bar ar y pryd ac, oherwydd bod hyn wedi digwydd dros 10 mlynedd yn ôl, roedd wedi anghofio'r rhan fwyaf o'r hyn ddigwyddodd.

Dywedodd bod y dioddefwr honedig wedi dweud wrtho fod "Nigel yn bod yn or-gyfeillgar ac yn amhriodol".

"Fe es i chwilio am Nigel ac awgrymu wrtho ei bod hi'n hwyr ac y byddai'n syniad da iddo fynd i'r gwely," meddai.

Dywedodd Mr Burns wrth y rheithgor ei fod wedi mynd â Mr Evans allan o'r bar, ac fe ddywedodd wrth y dioddefwr honedig bod yr AS wedi gadael ac y gallai fynd yn ôl at ei ffrindiau.

Er iddo ymddiswyddo fel dirprwy lefarydd pan gafodd ei gyhuddo ym Mis Medi, mae Mr Evans yn parhau i gynrychioli ei etholaeth fel aelod annibynnol.

Mae'n gwadu'r holl gyhuddiadau yn ei erbyn ac mae'r achos yn parhau.