Marwolaeth dyn o'r Rhyl: teulu'n cyhuddo doctoriaid

  • Cyhoeddwyd
Carl Nolan
Disgrifiad o’r llun,
Doedd doctoriaid heb ddweud wrth Carl Nolan am saith mlynedd bod ganddo glefyd yr iau.

Mae teulu dyn fu farw wedi iddo dderbyn "un o'r enghreifftiau gwaethaf o ofal gwael" wedi cyhuddo'r Cyngor Meddygol Cyffredinol o wrthod cymryd camau yn erbyn rhai o'r doctoriaid.

Doedd doctoriaid heb ddweud wrth Carl Nolan, 30 oed o'r Rhyl, am saith mlynedd ei fod yn diodde' o glefyd yr iau.

Mae'i deulu wedi cwyno wrth yr CMC ac yn honni nad ydyn nhw wedi llwyddo i gael atebion.

Dywedodd y CMC nad oedden nhw'n rhoi sylw am achosion unigol.

Llynedd roedd yr Ombwdsmon Gwasanaeth Cyhoeddus wedi cyhoeddi adroddiad damniol am farwolaeth Mr Nolan oedd yn dioddef o sirosis yr iau ers ei eni.

Roedd profion yn Ysbyty Glan Clwyd yn 2001 wedi dangos cyflwr Mr Nolan er nad oedd neb wedi dweud wrtho na'i deulu tan saith mlynedd yn ddiweddarach.

Anfon adref

Erbyn 2010 roedd ei iau yn methu ac fe gafodd ei ruthro i'r ysbyty.

Ond fe gafodd ei anfon adref sawl tro cyn cael ei gyfeirio i uned arbenigol yr iau yn Birmingham a chael ei roi ar restr rawsblaniad.

Bu farw Mr Nolan ychydig wythnosau'n ddiweddarach.

Fis Hydref diwethaf dywedodd yr Ombwdsmon bod gofal gwael drwy gydol ei salwch wedi golygu nad oedd wedi goroesi.

Yn ôl yr Ombudsmon, Peter Tyndall: "Fe ges i fy synnu gyda'r hyn roedd ein hymchwiliad wedi'i ddarganfod ar yr achlysur hwn.

"Dyma un o'r enghreifftiau gwaethaf o driniaeth wael gan y GIC a chyfathrebu gwael gyda chlaf dwi wedi dod ar ei thraws yn ystod fy nghyfnod fel Ombudsmon."

Gyda chefnogaeth yr Ombwdsmon fe gwynodd y teulu wrth y Cyngor Meddygol Cyffredinol am saith doctor fu'n ymwneud â'i ofal.

Methu ymchwilio

Dywedodd y CMC nad oedden nhw wedi gallu adnabod un o'r doctoriaid ac nad oedden nhw'n gallu ymchwilio i un arall am nad oedd yn gweithio bellach.

Dywedodd y cyngor na fydden nhw yn edrych ar sefyllfa dau ddoctor arall am fod yr achosion wedi digwydd dros bum mlynedd yn ôl.

Fe gafodd un gwyn ei dileu ac mae'r cwynion yn erbyn dau ddoctor arall yn dal i gael eu hymchwilio.

Dywedodd Pat Nolan, mam Carl: "Mae'n rhaid i bobl fod yn atebol. Rydan ni i gyd yn atebol ... ac maen nhw wedi gwneud camgymeriadau dychrynllyd. Rhaid iddyn nhw gael eu galw i gyfrif."

Mae'i chwaer, Andrea Nolan wedi dweud na ddylai hyn ddigwydd eto.

"Roedd Carl yn 30," meddai. "Roedd ganddo'i fywyd i gyd o'i flaen. Mi wnaethon ni gwyno'n uchel iawn pan roedd o'n sal ond mi ddigwyddodd dim ...

"Yn syth wedi i Carl farw mi allen ni fod wedi cael gafael ar gyfreithiwr a mynd â'r ysbyty i'r llys. Ond wnaethon ni ddim hynny. Oherwydd doedden ni ddim am gael swm o bres yn unig."

Dim disgyblu

Ychwanegodd Ms Nolan: "Roedden ni am weld pethe'n newid. Doedden ni ddim am i neb arall fynd trwy'r hyn ddigwyddodd i ni. Ac rydan ni wedi methu oherwydd mae pobl dal yn mynd trwy hynny. "

Mae Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr wedi dweud nad yw aelod staff wedi cael ei ddisgyblu na'i ddiswyddo.

Dywedodd llefarydd: "Rydan ni'n derbyn canfyddiadau adroddiad yr Ombudsmon yn llawn ac yn cydnabod bod rhywfaint o'r gofal gafodd Mr Nolan yn is na'r safon y dylid fod wedi'i ddarparu.

"O ganlyniad i'r achos mae'n system apwyntiadau a'n llwybrau gofal gastroenteroleg wedi cael eu hadolygu i sicrhau ein bod yn darparu gwasanaeth diogel, o safon uchel i gleifion. "