Galw am ganoli gwasanaethau cardioleg

  • Cyhoeddwyd
Glangwili
Disgrifiad o’r llun,
Mae'r adroddiad yn argymhell canoli gwasanaethau yn Ysbyty Glangwili

Mae adroddiad gan Goleg Brenhinol y Meddygol (CBM) i wasanaeth gofal y galon yn y canolbarth a'r gorllewin wedi argymell canoli gwasanaethau mewn un ysbyty.

Yn ôl Coleg Brenhinol y Meddygon, mae'r adnoddau ar hyn o bryd yn cael eu gwasgaru'n rhy denau.

Bydd Bwrdd Iechyd Hywel Dda nawr yn ystyried os ydyn nhw am ddod â gwasanaeth y galon i ben yn ysbytai Llwynhelyg yn yr Hwlffordd, Tywysog Philip yn Llanelli a Bronglais yn Aberystwyth.

Os yw hyn yn digwydd, byddai canolfan gardioleg arbenigol yn Ysbyty Glangwili yn Sir Gâr, gydag achosion brys i gyd yn cael eu cyfeirio yno.

Gofal o 'safon isel iawn'

Cafodd yr adolygiad ei gomisiynu yn dilyn "nifer o adroddiadau ac anecdotau o ddigwyddiadau" oedd yn awgrymu bod y gofal roedd pobl yn ei dderbyn yno yn wael.

Fel rhan o'u gwaith, fe edrychodd y panel ar ddogfennau mewnol gan gynnwys llythyrau ac e-byst, ac fe wnaethon nhw gyfweld â staff yr ysbytai gan gynnwys ymgynghorwyr cardioleg.

Clywodd y panel honiadau gan ddau feddyg oedd yn dweud bod y gofal roedd cleifion y galon yn ei dderbyn yno o "safon isel iawn".

Yn ogystal, fe glywon nhw fod adnoddau "wedi eu hymestyn" dros y pedwar ysbyty a'u bod yn cael trafferth recriwtio ymgynghorwyr.

'Pryderon difrifol'

Roedd pryderon hefyd bod yr ystadegau marwolaeth RAMI (Mynegai Marwolaethau wedi'i Addasu yn ôl Risg) yn uchel.

Daeth y panel, oedd yn cynnal yr adolygiad, i'r casgliad eu bod â "pryderon difrifol" am y ffordd roedd y ffigyrau hyn yn cael eu casglu.

Gan son yn benodol am Ysbyty Llwynhelyg, mae'r adroddiad yn dweud: "Roedd y rhif RAMI gafodd ei ddyfynnu i ni'n wreiddiol yn 120.

"Clywon wedyn bod y ffigwr hwn yn anghywir oherwydd nad oedd y data wedi cael ei gasglu'n iawn, bod 6000 o gofnodion achos wedi cael eu hanwybyddu gan yr arolwg gwreiddiol, a phan roedd y rhain yn cael eu cynnwys, roedd y RAMI cywir yn 87.

"Er gwaetha'r ffaith ein bod ni wedi holi droeon, doedden ni ddim yn gallu deall yn lle nac os oedd y camgymeriad mewn casglu data yma wedi digwydd na hyd yn oed pa ffigwr RAMI oedd yn debygol o fod yn gywir."

Argymhellion

Argymhelliad yr adroddiad oedd y dylai'r rhif gael ei ail-gyfrifo a bod angen sicrhau bod system gliriach o gasglu data'n cael ei gyflwyno, gydag un person ymhob ysbyty yn gyfrifol am gasglu'r data.

Mae argymhellion eraill yr adroddiad yn cynnwys:

  • Cryfhau'r timau nyrsys arbenigol mewn ysbytai ymylol
  • Gwneud yn siŵr bod cardiolegydd ymgynghorol ar gael ymhob ysbyty o leiaf unwaith yr wythnos i weld cleifion allanol
  • Creu rôl newydd i fod yn gyfrifol am gardioleg

Mewn ymateb i'r adroddiad, dywedodd Sue Fish, cyfarwyddwr meddygol Bwrdd Iechyd Hywel Dda: "Mae ein cleifion yn haeddu'r gofal gorau posib a dymunwn dawelu meddwl pob un ohonynt ein bod yn cymryd y materion a godwyd yn yr adroddiad o ddifrif.

"Nid yw'r adroddiad yn edrych ar unrhyw faterion penodol mewn cysylltiad â chleifion unigol, ac nid yw'n nodi unrhyw ran o'r gwasanaeth sy'n beryglus ar hyn o bryd.

"Fodd bynnag, gwnaed nifer o argymhellion ganddynt yn ein cynghori ar y modd y dylem drefnu'r gwasanaethau cardioleg er mwyn gwella gofal cleifion ar draws y bwrdd iechyd prifysgol.

"Bydd yn rhaid i ni ystyried yr argymhellion yn ddifrifol iawn cyn dod i benderfyniad ar y modd i'w gweithredu."

Mae'r bwrdd iechyd eisoes wedi dweud eu bod am sefydlu bwrdd prosiect clinigol i ystyried canfyddiadau'r adroddiad.

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol