Cyplau hoyw â hawl i gofrestru i briodi
- Cyhoeddwyd

Mae gan gyplau hoyw bellach yr hawl i gofrestru eu bwriad ar gyfer priodi.
Bydd y briodas gyntaf rhwng dau aelod o'r un rhyw yn cael ei chynnal yn un ai yn Lloegr neu Gymru ar Fawrth 29, pan mae'r newid yn y gyfraith yn dod i rym yn y ddwy wlad.
Cafodd y Ddeddf Priodasau ei chymeradwyo gan aelodau seneddol a daeth yn gyfraith wedi derbyn cydsyniad brenhinol ym mis Gorffennaf y llynedd.
Mae nifer o sefydliadau crefyddol Cymru'n bwriadu gweithredu eu hawl i gynnal seremonïau rhwng cyplau o'r un rhyw.
Ddim eisiau disgrimineiddio
Yn ôl Esgob Bangor, y Gwir Barchedig Andy John, mae'r newid yn un sy'n siŵr o effeithio ar yr Eglwys yng Nghymru.
"Ar hyn o bryd mae'r Eglwys yng Nghymru wedi etifeddu'r ddealltwriaeth draddodiadol mai dim ond rhwng merched a dynion y gallwn ni briodi pobl," meddai.
"Ond wrth gwrs does 'na neb yn yr Eglwys yng Nghymru sydd am fod yn disgrimineiddio yn erbyn pobl hoyw... a mi fydd yn ddiddorol i weld pa fath o newid yn yr Eglwys fyddan ni'n ei weld."
Mae'r Eglwys Undodaidd ymhlith yr enwadau sydd eisoes yn bendithio partneriaethau sifil ac yn debygol o gynnal priodasau hoyw.
'Cydraddoldeb a chariad a goddefgarwch'
Mae'r Parchedig Cen Llwyd yn weinidog ar chwech o gapeli, a dywedodd wrth BBC Cymru: "Cydraddoldeb a chariad a goddefgarwch - dyna'r tri pheth hwyrach sydd wedi ei harwain ni, lle mae'n henwad ni wedi bod yn cynnal bendithio ar barau sydd wedi mynd trwy'r gwasanaeth sifil er enghraifft.
"Mae hyn wedi bod yn digwydd yn o helaeth yn Lloegr, a hefyd mewn rhai capeli yng Nghymru. Dw i'n cymryd bydd capeli unigol yn gwneud y cais fel bod hynny'n medru digwydd yn gyfreithlon o fewn yr adeiladau."
Mae Bethan Marlow wedi bod mewn partneriaeth sifil ers dros dair blynedd gyda'i chariad sy'n dod o'r Unol Daleithiau.
Erbyn diwedd y flwyddyn bydd modd trosi statws partneriaeth sifil i briodas, allai effeithio ar allu Ms Marlow i symud dros Fôr yr Iwerydd.
'Dewis cyfartal'
Dywedodd Ms Marlow: "Ers i'r DOMA gael ei ddileu, sef y Defence of Marriage Act yn America, mae'n golygu rŵan bod unrhyw briodas o fewn y wlad lle wnaeth y briodas yna ddigwydd rŵan yn cael ei gydnabod o fewn America, lle o'r blaen dim ond dyn a dynes oedd wedi priodi oedd yn cael ei gydnabod.
"Mae hynny'n golygu bod rhywun sydd fel ydan ni, rhywun o wlad arall, yn gallu mynd yna a chael y visa cywir i allu byw a gweithio yna, ac mae teulu mhartner i gyd yna.
"Rwan ein bod ni'n cychwyn teulu bach ein hunain, yna mae'n bwysig ystyried lle fyddan ni eisiau bod ac eto y dewis ydi o de, ei fod o'n gyfartal i unrhyw gwpl arall."
Dyn tywydd i briodi
Un sy'n bwriadu priodi yn sgîl y gyfraith newydd yw cyflwynydd tywydd BBC Cymru, Owain Wyn Evans.
"Mi wnes i a nghariad benderfynu ein bod ni am briodi pan oedd hi'n bosib neud hynny yng Nghymru felly mi wnaethon ni benderfynu aros tan nawr," meddai Mr Evans.
"Ni'n gobeithio priodi mis Ionawr y flwyddyn nesaf, ac mae'n rhywbeth ni 'di siarad am ers sbel.
"Yn amlwg roedd hawl gan bobl hoyw i gael seremonïau sifil yma yng Nghymru ond i ni oedd e'n bwysicach ein bod ni'n gallu priodi achos 'dw i yn bersonol yn teimlo'n gryf am y ffaith bod e dim ond yn deg bod dau berson sy'n digwydd bod yn hoyw yn cael yr un hawliau a dau berson sydd ddim yn hoyw."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd10 Rhagfyr 2013
- Cyhoeddwyd4 Mehefin 2013
- Cyhoeddwyd21 Mai 2013