Niwl yn effeithio ar wasanaethau o Faes Awyr Caerdydd

  • Cyhoeddwyd

Mae rhai gwasanaethau wedi eu gohirio ym Maes Awyr Caerdydd oherwydd niwl trwchus fore Iau.

Roedd tair awyren - o Newcastle, Dulyn a Chaeredin - i fod i lanio yno rhwng 7.55yb a 8.30yb, ond dywedodd llefarydd ar ran y safle y byddai rhagor o wybodaeth ar gael yn ystod y bore.

Mae disgwyl i wasanaeth o Gaerdydd i Ddulyn adael am 10.35yb - ddyw awr yn hwyr.

Roedd disgwyl oedi ar ragor o wasanaethau, hefyd.

Mae'r wybodaeth ddiweddara' ar gael i deithwyr ar wefan y maes awyr.

Ychwanegodd y llefarydd bod yn niwl yn clirio fesul tipyn.

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol