Pryderon am ddiswyddo athrawon ym Mhrestatyn
- Cyhoeddwyd

Mae aelodau'r NUT yn Ysgol Bodnant ym Mhrestatyn wedi galw am gynnal pleidlais dros streicio mewn ymateb i dorri swyddi athrawon a'r ffordd mae staff yn cael eu trefnu a'u lleoli.
Mae'n debyg bod yr ysgol yn bwriadu diswyddo rhai athrawon a chael gweithwyr sydd heb eu hyfforddi'n athrawon i ddysgu gwersi, yn ôl yr undeb.
Mae aelod o fwrdd gweithredu cenedlaethol yr NUT, Neil Foden, yn dweud ei fod "wedi'i ddychryn gyda'r ffordd mae'r ysgol yn delio gyda'r gostyngiadau yn y lefelau staffio a'r adleoli staff.
"Roedd yr ysgol wedi honni'n wreiddiol bod diswyddiadau yn hanfodol oherwydd y byddai llai o waith, ond mae nhw rwan wedi dweud wrth ein haelodau bod y rhesymau yn rhai ariannol, er eu bod yn rhagweld y bydd £112,000 o gyllid dros ben erbyn diwedd y flwyddyn ariannol hon.
"Dydy'r ysgol heb ddarparu unrhyw gyfriflenni ariannol o daliadau'r flwyddyn eto, i ddangos faint mae nhw wedi'i wario ar bob agwedd o redeg yr ysgol, a phan gwrddon ni," meddai Neil Foden, "doedd y Prifathro ddim yn gallu, neu ddim am, gadarnhau faint o amser roedd disgyblion yn treulio ddim yn cael eu dysgu gan athrawon oedd wedi'u hyfforddi."
"Rydym yn amau bod yr ysgol yn ceisio cuddio'r ymgais i arbed arian drwy ddysgu rhad.
Mae'r undeb yn poeni mai bwriad yr ysgol yw y byddai disgyblion yn cael eu dysgu gan staff sydd heb eu hyfforddi'n athrawon pan fyddai athrawon cymwys ar gael, oherwydd eu bod yn ystyried nad oes eu hangen nhw.
Mi fyddan nhw hefyd yn rhoi'r gweithwyr hyn i arwain gwersi pan fo athrawon yn gwneud eu gwaith cynllunio.
"Rydym yn meddwl tybed petai rhieni yn gwybod na fydd eu plant yn cael eu dysgu gan athro cymwys am gyfwerth mis ym mhob blwyddyn academaidd", meddai Neil Foden.
Mewn cyfarfod o aelodau'r NUT, fe benderfynwyd i alw am gynnal pleidlais fel bod streic yn digwydd petai aelod o staff yn cael ei ddiswyddo.
Rydym yn aros am ymateb gan Gyngor Sir Ddinbych.