Mwy o waith i DVLA Abertawe
- Cyhoeddwyd
Fe fydd 300 o swyddi yn diflannu yn yr Asiantaeth Trwyddedu Gyrwyr a Cherbydau yng Ngogledd Iwerddon wrth i'r gwasanaeth symud i Abertawe, ond fydd yna ddim swyddi newydd.
Mi fydd mwyafrif y swyddi yng Ngogledd Iwerddon yn diflannu o swyddfa'r DVLA yn Coleraine, Sir Londonderry, ac mae'r newyddion wedi cael ei ddisgrifio gan Weinidog Amgylchedd Gogledd Iwerddon, Mark H Durkan, fel "ergyd aruthrol".
Dywedodd bod hyn "yn ymarfer wedi'i gyfyngu i dorri costau yn unig, gyda dim ystyriaeth o gwbl i safon gwasanaeth, effaith ar gwsmeriaid neu effaith ehangach ar economi Gogledd Iwerddon, ac yn arbennig, ardal Coleraine."
Mae Llywodraeth y DU wedi penderfynu canoli'r gwaith yn Abertawe.
Ond fydd dim swyddi newydd yn eu pencadlys yng Nghymru.
Does neb yn siwr pa effaith fydd hyn yn ei gael ar bwysau gwaith y staff yn Abertawe.
Canoli gwasanaethau
Roedd y Llywodraeth wedi dweud yn flaenorol y byddai canoli gwasanaethau yn arbed arian ac yn caniatau i yrwyr drethu cerbydau dros y we a'r ffôn.
Roedd ymgyrch frwd yng Ngogledd Iwerddon yn erbyn y canoli gan y rhai oedd yn credu y byddai'r diswyddiadau yn cael effaith andwyol ar ardal sy'n dioddef o ddiwethdra difrifol yn barod.
Dywedodd Gweinidog Ffyrdd y DU, Stephen Hammond: "Rydym wedi gwrando'n ofalus ar y pwyntiau a godwyd yn ystod yr ymgynghoriad, yn arbennig am yr ansicrwydd i staff y DVA sy'n darparu gwasanaethau cofrestru a thrwyddedu ar hyn o bryd.
"Tra bod y newidiadau'n golygu na fydd y DVA bellach yn cynnig y gwasanaethau hyn, mae Adran yr Amgylchedd yng Ngogledd Iwerddon wedi dweud y byddan nhw'n ceisio osgoi diswyddiadau a lleihau nifer y diswyddiadau gorfodol o ganlyniad i'r newidiadau hyn."
Yn ogystal â Coleraine, mae saith swyddfa drwyddedu arall yng Ngogledd Iwerddon.
Straeon perthnasol
- 4 Ionawr 2014
- 8 Hydref 2013