Dyn wedi deffro 'gyda dwylo AS drosto'
- Published
Clywodd llys bod dyn wedi deffro gan ddarganfod bod dwylo'r AS Nigel Evans drosto'i gyd.
Roedd y dyn, sy'n ei 20au, ac na ellid ei enwi am resymau cyfreithiol, wedi dweud wrth Lys y Goron Preston bod AS Ribble Valley wedi ymosod arno'n rhywiol tra'n cysgu ar soffa yn nhy Mr Evans yn 2009.
Fodd bynnag, fe ddywedodd wrth y llys nad oedd yn awyddus i ddweud wrth yr heddlu.
Mae'r cyn ddirprwy lefarydd, 56 oed, yn gwadu un cyhuddiad o dreisio, dau gyhuddiad o ymosod yn anweddus a chwech o ymosod yn rhywiol.
Mae'r cyhuddiadau yn gysylltiedig ag achosion yn cynnwys saith o ddynion, yn dyddio'n ôl i'r cyfnod rhwng 2002 a 2013.
Sylw dros ysgwydd
Clywodd y llys bod y dyn oedd yn gweithio yn San Steffan wedi sôn am ymddygiad Nigel Evans tuag ato wrth yr AS Ceidwadol, Dr Sarah Wollaston, mewn bwyty ar ôl ychydig o ddiodydd y llynedd.
Dywedodd bargyfreithiwr yr amddiffynydd "fe ddechreuoch chi'r drafodaeth gyda sylw dros ysgwydd... ac fe arweiniodd hynny at orfod dweud wrth yr heddlu, ac fe ddaru chi or-ddweud beth ddigwyddodd"; "Dydy hynna ddim yn wir" atebodd y dyn.
Clywodd y llys bod yr honiadau o ymosodiad rhywiol gan Nigel Evans wedi cael eu cyfeirio at Lefarydd Ty'r Cyffredin, John Bercow gan Sarah Wollaston AS, ac roedd y dyn yn dweud ei fod "wedi cael ei ddychryn bod sylw dros ysgwydd" mewn bar am y digwyddiad wedi cael ei gyfeirio at y Llefarydd.
Roedd y llys wedi clywed bod John Bercow wedi dweud ei fod yn fater i'r heddlu am fod y digwyddiad heb ddigwydd ar safle'r Senedd.
Roedd Dr Sarah Wollaston AS am i'r gwr roi cwyn i'r heddlu, ond doedd o ddim yn awyddus i wneud hynny, er ei fod yn dweud bod y sefyllfa'n "anghyfforddus yn broffesiynol".
Wrth gael ei groesholi gan y bargyfreithiwr, Peter Wright, gofynnwyd iddo "a oeddech chi'n teimlo'n ddibwer" wedi i'r heddlu gael eu galw, ac fe atebodd "Oeddwn."
"Oeddech chi'n teimlo eich bod wedi cael eich gwthio i gornel?" gofynnwyd iddo, ac fe atebodd y dioddefwr honeddig "Oeddwn braidd."
"Tipyn o gymeriad"
Dywedodd y dyn wrth y llys bod gan Mr Evans "rinweddau clodwiw" a'i fod wedi'i ddisgrifio fel "tipyn o gymeriad" yn 2012, flynyddoedd wedi'r digwyddiad honedig.
Wrth gael ei groesholi gan y bargyfreithiwr Peter Wright, fe ofynwyd iddo: "Dyma eich bradwr, fe wnaethoch chi ei alw'n "eich bradwr" ond flynyddoedd yn ddiweddarach, rydych yn ei alw'n "gymeriad."
Fe awgrymodd y bargyfreithiwr bod y dioddefwr yn agos ac yn gyfforddus gyda'r AS ac fe allai eraill wedi credu eu bod yn gwpwl, ond fe ddywedodd y dyn wrth y rheithgor ei fod yn berson cyffyrddol, normal, ac nad oedd erioed wedi rhoi'r argraff eu bod yn gwpwl.
Mae'r achos yn parhau.