Ffrwgwd Pontardawe: Arestio dyn

  • Cyhoeddwyd

Mae heddlu wedi arestio dyn wedi i ddynes golli rhan o'i bys yn ystod ffrwgwd mewn clwb nôs ym Mhontardawe dros y penwythnos.

Fe ddigwyddodd y ffrwgwd tua 1.45am fore Sul yng nghlwb Paradise, pan ddechreuodd anghydfod rhwng criw o bobl.

O ganlyniad, fe gollodd dynes 49 oed ran o'i bys.

Fe gafodd nifer o bobl eraill eu hanafu yn ogystal.

Mae dyn 25 oed wedi ei ryddhau ar fechniaeth wrth i ymchwiliad yr heddlu barhau.

Meddai'r Ditectif Arolygydd Mark Kavanagh: "'Dy ni'n ddiolchgar iawn i bawb sydd wedi rhoi gwybodaeth i ni am y digwyddiad.

"Mae'n apel ni'n parhau a 'dy ni'n annog unrhywun welodd y ffrwgwd i gysylltu 'efo'r heddlu gan y gallai llawer o dystion posib fod wedi gadael y clwb cyn siarad gyda swyddogion neu adael eu manylion gyda ni.

"Mae dynes wedi dioddef anaf difrifol i'w llaw, ac rwy'n annog unrhyw un sydd gan wybodaeth am be' ddigwyddodd i roi gwybod i ni."

Gall unrhyw un â gwybodaeth gysylltu â'r heddlu ar 101 neu ffonio Taclo'r Tacle yn ddienw ar 0800 555 111 a nodi'r cyfeirnod 1400078182.