Arian y rhanbarthau ar y ffordd?
- Cyhoeddwyd
Mae'r BBC ar ddeall y bydd y rhanbarthau yn derbyn eu taliadau Cwpan Ewrop os bydd Sky a BT yn gallu dod i gytundeb ynghylch darlledu'r twrnamaint y flwyddyn nesaf.
Cafodd y taliadau eu gohirio oherwydd yr ansicrwydd sy'n amgylchynnu ERC, y cwmni sy'n gyfrifol am drefnu Cwpan Heineken a Cwpan Amlin.
Oherwydd hyn, fe wnaeth Undeb Rygbi Cymru (URC) gynnig benthyciad o £660,000 i'r clybiau, er mwyn eu hatal rhag mynd i drafferthion ariannol.
Mae cynnig yn cael ei ystyried ar hyn o bryd fyddai'n gweld Pwyllgor y Chwe Gwlad yn cymryd y cyfrifoldeb dros redeg y Cwpan o'r tymor nesaf ymlaen.
Dywedodd uwch-swyddogion o URC a'r rhanbarthau wrth BBC Cymru y byddai'r arian ar ei ffordd pe byddai cytundeb ynglŷn â hynny'n gallu cael ei sicrhau.
Mae llawer ym myd rygbi nawr yn ffyddiog y bydd cytundeb ar y gorwel, ac y gallai fod wedi ei arwyddo erbyn diwedd y mis.
Straeon perthnasol
- 20 Chwefror 2014
- 18 Chwefror 2014