Cymru a China - datblygu cysylltiadau
- Cyhoeddwyd

Mae'r sefydliad sydd tu ôl i bartneriaeth newydd yn gobeithio gweld busnesau Cymreig yn gwneud mwy o fusnes yn China.
Daw hyn yn sgil cytundeb newydd rhwng Cyngor Busnes China-Prydain (CBCP) a Siambr Fasnach De Cymru.
Bydd CBCP yn defnyddio pencadlys y siambr fasnach fel canolfan yng Nghymru, gan gryfhau'r cysylltiad gyda China er mwyn ei gwneud hi'n haws i gwmnïau allforio eu cynnyrch yno.
Ar hyn o bryd mae'r rhan fwyaf o allforion Cymru'n mynd i'r Unol Daleithiau - gwledydd sy'n derbyn y mwyaf wedyn yw Iwerddon, yr Emiradau Arabaidd Unedig, yr Almaen a'r Iseldiroedd.
Graham Morgan yw cyfarwyddwr siambrau masnach de a chanolbarth Cymru, a dywedodd wrth y BBC: "Rwy'n credu mai'r meddylfryd ar hyn o bryd yw nad yw hi [marchnad China] yn cael ei hecsbloetio i'r llawn graddau y gallai.
"Mae'n wlad fawr ac fel busnes yng Nghymru, mae'n rhaid i chi weithio allan sut mae'ch cynnyrch yn siapio lan a beth sydd ar gael yn lleol.
"Mae ganddoch chi farchnad sy'n datblygu lle mae unigolion cefnog sydd yn ceisio ar ôl brandiau a chynnyrch o dramor."
Ychwanegodd y byddai arbenigedd CBCP yn hwb i fusnesau Cymreig..
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd6 Mawrth 2014