Arddangosfa i Artist Ifanc Rhyngwladol Cymru
- Cyhoeddwyd

Bydd arddangosfa o waith enillydd Gwobr artist Ifanc Rhyngwladol Cymru yn agor yng Nghanolfan Celfyddydau'r Chapter yn Canton, Caerdydd.
Mae'r arddangosfa yn dangos nifer o ystafelloedd lle mae: "Rhywbeth wedi ei adael ar ôl."
Andrew Morris o Abertawe oedd enillydd gyntaf y wobr a lansiwyd yn 2013 gan Gyngor Prydeinig Cymru.
Bydd yr arddangosfa yn parhau am ddau fis.
Y wobr an ennill oedd £500 a'r cyfle i arddangos ei waith ar chwe chyfandir ac mewn mwy na 100 o wledydd.
Meithrin talent newydd
Nod y wobr ydi dod o hyd i dalentau newydd ifanc yn y sectorau creadigol, i feithrin y dalent hynny ac i roi'r cyfle iddynt dangos eu gwaith yn genedlaethol ac yn rhyngwladol.
Newydd raddio o Brifysgol Cymru, Y Drindod Dewi Sant, Abertawe mae'r artist lle astudiodd Ffotograffiaeth yn y Celfyddydau.
Mae ei waith wedi ei ddisgrifio fel : "...gofodau mewnol yn ymddangos yn dawel a myfyriol, fel petaent yn llefydd dros dro - rhywle rhwng llawnder a gwacter."
Colled
Mewn un o'r ystafelloedd, mae sbectol wedi ei adael ar sil y ffenest i wneud i bobl feddwl bod y perchennog newydd bicio allan ac mewn un arall, mae papur wal yn pilio - yn ôl yr artist ystafelloedd ar ganol cael eu clirio ydynt, oherwydd bod y perchennog wedi marw.
Mi fydd yr arddangosfa ymlaen tan ddydd Sul, Mai 18.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd7 Mawrth 2014
- Cyhoeddwyd7 Rhagfyr 2013