Gwrthod trwydded teledu lleol i Fangor
- Cyhoeddwyd

Mae Ofcom wedi penderfynu peidio rhoi trwydded i wasanaeth teledu lleol ym Mangor.
Dim ond un cais oedd wedi'i dderbyn.
Penderfynodd y Pwyllgor Trwyddedu Darlledu na fyddai'r cais yn gallu cynnal y gwasanaeth dros gyfnod y drwydded gyda'r model gyllido gafodd ei gynnig.
Mae Ofcom wedi trwyddedu 25 o wasanaethau teledu lleol hyd yn hyn.
Fe ddechreuodd y sianel leol gyntaf yn Grimsby ym mis Tachwedd y llynedd.
Ym mis Ionawr, dyfarnwyd y byddai Bay TV Abertawe yn rhedeg sianel deledu yn ardal Abertawe a Llanelli.
Hefyd cafodd Bay TV Clwyd - cwmni oedd wedi ei sefydlu gan berchnogion Bay TV Liverpool - gyfrifoldeb am ddarlledu rhaglenni yn ardal yr Wyddgrug.
Roedd y ddau gwmni wedi dweud y bydden nhw'n rhannu arbenigedd dros y gogledd a'r de ac yn gweithio'n agos ar raglenni Cymraeg ar gyfer y ddwy ardal.
Straeon perthnasol
- 26 Chwefror 2014
- 23 Ionawr 2014