Dau wedi anafu mewn gwrthdrawiad yn Llanrwst
- Cyhoeddwyd
Mae dau o bobl wedi eu hanafu yn ddifrifol yn dilyn gwrthdrawiad ar Ffordd Betws yn Llanrwst am 2.00pm ddydd Gwener.
Roedd rhaid cludo un ddynes oedd yn y car i Ysbyty Stoke, ac fe gafodd dyn oedd yn gyrru'r car ei gludo i Ysbyty Glan Clwyd ym Modelwyddan.
Dywedodd yr Arolygwr Martin Best o Heddlu Gogledd Cymru: "Rydym yn apelio am unrhyw un a welodd yr Honda du oedd yn teithio ar ffordd yr A470 i gyfeiriad Betws y Coed, cyn iddo adael y ffordd a dod i stop mewn cae, i gysylltu gyda'r heddlu."
Digwyddodd y gwrthdrawiad ger canolfan antur "Tree Top".
Mae'r heddlu yn gofyn i unrhyw lygad-dystion gysylltu gyda heddwas Vinnie Jones trwy ffonio 101.