Tîm rygbi dan 20 Cymru yn curo'r Alban 43-15

  • Cyhoeddwyd

Yn dilyn yn grasfa o 67-7 yn erbyn tîm dan 20 Lloegr yn Newcastle wythnos yn ôl, roedd newyddion gwell i dîm dan 20 Cymru ym Mharc Eirias, Bae Colwyn, heno.

Llwyddodd y tîm i guro tîm dan 20 yr Alban o 43 i 15 ym mhencampwriaeth chwe gwlad dan 20 yr RBS.

Cyn y gêm roedd tîm Cymru wedi curo dwy a cholli dwy gêm, ac roedd pwysau ar y chwaraewyr yn dilyn siomedigaeth colli mor drwm yn erbyn Lloegr.

Yr Alban oedd y tim cyntaf i sgorio cais, ond tawel iawn fuodd eu perfformiad drwy weddill y gêm, wrth i Gymru chwarae gyda hyder.

Erbyn hanner amser roedd tîm Cymru ar y blaen o 19-10, ac fe lwyddodd dynion Byron Howard, yr uwch reolwr, i ymestyn y fantais yn y deugain munud olaf.

Daeth pedwerydd cais i Gymru gan James Benjamin yn fuan ar ôl y toriad, gyda'r pumed cais yn dod gan Joshua Adams chwe munud yn ddiweddarach.

Llwyddodd Tom Williams i sgorio cais gyda deuddeg munud i fynd, cyn i Steffan Hughes y capten groesi'r llinell i sgorio seithfed cais Cymru gydag ychydig dros bum munud i fynd.

Yr Alban gafodd y gair olaf, wrth sgorio cais yn yr eiliadau olaf, ond Cymru oedd yr ennillwyr haeddianol ar y noson.

Timau:

Cymru Dan 20: Ashley Evans (Gweilch); Tyler Morgan (Dreigiau), Steffan Hughes (capten, Scarlets), Jack Dixon (Dreigiau), Joshua Adams (Scarlets); Angus O'Brien (Dreigiau), Luc Jones (Dreigiau); Nicky Smith (Gweilch), Scott Otten (Gweilch), Nicky Thomas (Gweilch), Ben Roach (Gleision), Joe Davies (Dreigiau), Olly Cracknell (RGC), James Benjamin (Dreigiau), Will Boyde (Caerfyrddin).

A y fainc: Elliot Dee (Dreigiau), Leon Crump (Gleision), Benjamin Leung (Scarlets), Scott Andrews (Dreigiau), Ollie Griffiths (Dreigiau), Tom Williams (Gleision), Luke Price (Gweilch), Harri Evans (RGC).

Yr Alban Dan 20: Damien Hoyland (Melrose); Jamie Farndale (Edinburgh Rugby), Blair Hutchison (Loughborough University), Ruairidh Young (Edinburgh Accies), Sam Pecqueur (Edinburgh Accies); Gavin Lowe (Glasgow Warriors), Ben Vellacott (Hartpury); James Malcolm (Ayr), Sam James (London Wasps), D'arcy Rae (Ayr), Andrew Cramond (Aberdeen Grammar), Lewis Carmichael (Melrose), Tommy Spinks (London Scottish), Magnus Bradbury (Edinburgh Rugby), Gabriel Carroll (Loughborough University).

Ar y fainc: Isaac Miller (PrifysgolLoughborough); Cameron Fenton (Howe of Fife), Phil Cringle (Rygbi Caeredin), Glen Young (Newcastle Falcons), Neil Irvine-Hess (Rygbi Caeredin), Sean Yacoubian (Glasgow Hawks), George Horne (Currie), Angus Rennie (Aberdeen Grammar).