Pencampwriaeth Rygbi'r Chwe Gwlad - Cymru v Alban

  • Cyhoeddwyd
Rygbi CymruFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,
Colli wnaeth Cymru yn erbyn Lloegr penwythnos diwethaf

Bydd Cymru'n dechrau eu gêm olaf ym mhencampwriaeth y Chwe Gwlad 2014 yn erbyn yr Alban y penwythnos hwn yn gwybod mai balchder yw'r unig wobr ar ôl, wedi i'r tim golli yn erbyn Lloegr yn Twickenham wythnos yn ôl.

Bydd llawer o gwestiynnau angen eu hateb ar ddiwedd y bencampwriaeth gan Warren Gatland, ar ôl i'r crysau cochion ddioddef crasfa mewn dwy gêm allan o chwech.

Dim ond pedwar cais mae chwaraewyr Cymru wedi llwyddo eu sgorio, ac mae'r tîm wedi methu a sgorio unrhyw gais o gwbl oddi-cartref.

Beirniadaeth

Yn dilyn dibynnu ar gêm gicio yn erbyn Lloegr, mae beirniadaeth wedi dod o bob cwr am ddiffyg dychymyg yn y ffordd y mae Cymru wedi chwarae yn ystod y bencampwriaeth.

Mae rhai beirniaid yn amau fod blinder ymysg rhai chwaraewyr wedi chwarae ei ran yn y canlyniadau siomedig, o gofio fod nifer fawr o dîm Cymru wedi teithio ar daith y Llewod y llynedd.

Fe fethodd Cymru 24 tacl yn Twickenham, sydd dros hanner y nifer o daclau (45) a fethodd y chwaraewyr yn eu tair gem flaenorol gyda'i gilydd.

Siom

Bydd yr Alban yn dechrau'r gêm yn erbyn Cymru gyda'r siom o golli'r gêm yn erbyn Ffrainc, a hwythau drwch blewyn o gipio buddugoliaeth, yn dal yn fyw ar eu cof.

Tydi curo Cymru yng Nghaerdydd ddim yn brofiad cyffredin i'r Alban, sydd wedi llwyddo i sicrhau buddugoliaeth yn y brif ddinas dim ond chwe gwaith ers yr ail ryfel byd.

Hon fydd gêm olaf Scott Johnson fel rheolwr yr Alban, ac fe fydd yn ceisio sicrhau na fydd ei chwaraewyr yn gadael i Gymru eu cosbi. Mae'r Alban wedi ildio 51 pwynt cosb mewn pedair gêm, ond mae Cymru hefyd wedi ildio 47 pwynt eu hunain.

Jerome Garces o Ffrainc ydi'r dyfarnwr fydd yn ceisio cadw trefn ar y cae.

Bydd y gic gyntaf am 14.45.