Seiclo: Thomas yn yr ail safle

  • Cyhoeddwyd
Geraint ThomasFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,
Geraint Thomas

Mae Geraint Thomas wedi disgyn i'r ail safle yn ras feicio Paris Nice.

Mae'r Cymro wyth eiliad ar ol Carlos Betancur.

Fe wnaeth Betancur drechu Rui Costa i ennill y cymal diweddara.

Roedd Thomas ar y blaen tan y ddau gilomedr olaf yn y cymal 221.15 cilomedr rhwng St-Saturnin-les-Avignon a Fayence.

RAS FEICIO PARIS NICE - Diwedd cymal o St-Saturnin-les-Avignon i Fayence

1. Carlos Betancur (AG2R) 27:4:48"

2. Geraint Thomas ( Sky) +8"

3. Rui Costa (Lampre-Merida) +18"