Apêl am waed O ac B negatif yn y gogledd
- Cyhoeddwyd
Mae pryderon bod cyflenwadau gwaed yn brin iawn yng ngogledd Cymru a Lloegr ac mae na alwad i bobl fynd i roi gwaed.
Mae'r awdurdod gwaed yn benodol angen gwaed O ac B negatif gan ddweud bod y lefelau'r cyflenwadau'n is nag ar unrhyw adeg arall yn ystod y pedair blynedd diwethaf.
Yn ol yr awdurdod mae O negatif yn hanfodol am ei fod yn gallu cael ei ddefnyddio ar gyfer cleifion sydd gyda math arall o waed mewn argyfwng. Mae angen gwaed B negatif ar gyfer pobl o gefndiroedd ethnig gwahanol.
Mae Donna Batty o'r awdurdod yn gofyn i wirfoddolwyr rhoi eu gwaed yn y "dyddiau nesaf" gan fod y cyflenwadau yn is na fydden nhw'n dymuno.
Dim prinder bob man
"Rydyn ni hefyd yn gofyn i bobl sydd gyda'r math yma o waed ac sydd gydag apwyntiad yn y dyfodol i fynd i'r apwyntiad hwnnw.
"Rydyn ni yn gobeithio y bydd unigolion gwych sydd yn rhoi gwaed yn ymateb i'r apêl yma ac y byddan nhw'n amyneddgar os byddan nhw yn gorfod aros ychydig yn hirach na'r arfer i roi'r gwaed."
Dyw'r prinder cyflenwadau ddim yn effeithio ar weddill Cymru.
Mae Gwasanaeth Gwaed Cymru yn dweud bod gyda nhw 6-7 diwrnod o gyflenwadau gwaed ar gyfer bob math o waed a bod diwrnod Rhoi Gwaed ar y 1af o Fawrth wedi bod yn hwb i'w cyflenwadau.
Straeon perthnasol
- 7 Mai 2012
- 11 Tachwedd 2013