Mwy o bobl yn dewis hedfan o Faes Awyr Caerdydd

  • Cyhoeddwyd
Jon HorneFfynhonnell y llun, other
Disgrifiad o’r llun,
Mae Jon Horne yn dweud bod y newidiadau sydd wedi eu cyflwyno yn ddiweddar wedi gwneud gwahaniaeth

Dywedodd Maes Awyr Caerdydd eu bod wedi gweld cynnydd o 9% yn nifer y teithwyr sydd yn hedfan o'r maes awyr ers i Lywodraeth Cymru brynu'r maes awyr y llynedd.

Mi brynodd y llywodraeth y safle ym mis Mawrth y llynedd am £52 miliwn ar ôl pryderon bod yna ddiffyg buddsoddi yn y lle gan y perchnogion o Sbaen. Roedd yna leihad hefyd wedi bod yn nifer yr ymwelwyr a'r teithiau oedd ar gael.

Roedd yna dal gwymp yn y ffigyrau ym mis Ebrill sef y mis cyntaf pan roedd rheolwyr newydd wrth y llyw.

Ond ers mis Mai, mae'r maes awyr wedi gweld 10 mis o dwf, a hyd at Chwefror eleni mae'r twf yna'n cynrychioli cynnydd o 10.6% o'i gymharu â'r un cyfnod y llynedd.

Mwy o deithiau

Mae gwaith adnewyddu'r maes awyr yn parhau gan gynnwys yr ardal ddiogelwch a'r ardal lle mae teithwyr yn rhoi eu tocynnau cyn mynd ar yr awyren.

Mae Llywodraeth Cymru wedi rhoi benthyciad o £10 miliwn i'r maes awyr a hynny dros gyfnod o 12 mlynedd.

Mae llwybrau newydd wedi cychwyn yn ddiweddar a chwmnïau eraill wedi penderfynu defnyddio'r maes awyr gan gynnwys Cityjet sydd yn rhan o grŵp Air France. Maen nhw'n hedfan i Glasgow a Pharis.

Mae Cityjet hefyd yn bwriadu cychwyn hedfan i Gaeredin a Jersey y mis yma ac yn ystyried cynnig teithiau eraill hefyd yn y dyfodol.

Dechreuodd y cwmni awyrennau hedfan o Gaerdydd ym mis Ionawr ar ôl i Flybe benderfynu atal eu gwasanaethau i Baris a Glasgow.

Dechrau da

Yn ystod y flwyddyn tan fis Mawrth y llynedd 997,000 o bobl wnaeth ddefnyddio'r maes awyr i hedfan. Ond ar gyfer y 12 mis tan fis Mawrth 2014 y gred ydy y bydd yna 1,080,000 o deithwyr.

Yn ôl Jon Horne, Prif Weithredwr Maes Awyr Caerdydd, mae'r ffigyrau yma yn arwydd da:

"Mae'n ddechrau cadarn i'r gwaith sydd angen ei wneud er mwyn sicrhau bod yna dyfiant parhaol dros y blynyddoedd nesaf.

"Yn ystod y flwyddyn ddiwethaf mae 'na nifer o newidiadau wedi eu cyflwyno er gwell sydd wedi golygu mwy o deithwyr. Mi ddechreuodd hyn digwydd o fewn chwe wythnos ar ôl i Lywodraeth Cymru perchnogi'r maes awyr. "

"Mae mwy o le i deithwyr a gwasanaethau newydd wedi cyfrannu at y 10 mis o gynnydd dilynol. Mae 'na lawer iawn mwy o waith i wneud ond dw i yn hyderus ein bod ni ar y llwybr iawn, gyda thîm cryf o bobl sydd wedi ymrwymo i weld y maes awyr yn tyfu."

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol