BBC Cymru Fyw

Menyw yn marw ar ôl disgyn o faes parcio

Published
image copyrightMatthew Horwood/Wales News Service
image captionCafodd yr heddlu ei galw nôs Sadwrn
Mae menyw 41 oed wedi marw ar ôl disgyn o faes parcio aml lawr yng nghanol Caerdydd.
Cafodd Heddlu'r de ei galw i Westgate street sydd wrth ymyl Stadiwm y Mileniwm am 18:40 nôs Sadwrn.
Mi oedd gweithwyr ambiwlans yno hefyd ond roedd y fenyw wedi marw yn y fan a'r lle.
Mae'r heddlu yn dweud ei bod nhw nawr yn ymchwilio i achos y farwolaeth ond does dim amgylchiadau amheus. Mae'r crwner wedi cael gwybod.