Awyren yn glanio'n sydyn ar ol i'r peilot daro adar

Police car
Image caption Mae'r heddlu'n dweud mai bwriad y peilot oedd hedfan yr awyren i gyfeiriad Gŵyr

Mae peilot oedd yn gyrru awyren fach wedi gorfod glanio yn sydyn ar ôl taro haid o adar yn Abertawe.

Mi gafodd y peilot fan anafiadau ar ôl i'r awyren droi ar ei hochr wrth lanio yn ardal Pengelli-ddrain.

Cafodd y gwasanaethau brys ei galw toc wedi saith fore Sul.

Ffarmwr lleol oedd yr hedfan yr awyren ac mi lwyddodd i lanio ar ei lain glanio ei hun.

Dim ond ef oedd arni pan ddigwyddodd y ddamwain.

Mae'r dyn wedi ei yrru i Ysbyty Treforys.