Gwrthdrawiad: y cerddwr wedi cael anafiadau difrifol

  • Cyhoeddwyd

Mae heddlu'r de yn apelio am wybodaeth gan dystion yn dilyn gwrthdrawiad ar yr A4429 ym Mhorthcawl yn ystod oriau man bore Sul rhwng Mini arian a cherddwr.

Cafodd y cerddwr anafiadau difrifol ac roedd Ffordd Y Pîl ar gau am dair awr.

Mae swyddogion yn awyddus i siarad efo unrhyw un a welodd beth ddigwyddodd neu a welodd y Mini arian neu'r cerddwr cyn y gwrthdrawiad.

Mi allith unrhyw un gysylltu gyda'r heddlu trwy ffonio 101 neu adran ffyrdd yr heddlu ar y rhif 02920 633438 neu trwy ffonio Taclo'r Tacle ar y rhif 0800 555111.