Diswyddo Dafydd Elis-Thomas yn"gwbl briodol"

  • Cyhoeddwyd
Dafydd Elis Thomas a Leanne Wood
Disgrifiad o’r llun,
Mae Dafydd Trystan Davies yn dweud bod pleidiau eraill hefyd wedi cymryd camau disgyblu yn erbyn eu ACau

Mi oedd hi yn "gwbl briodol" i Leanne Wood rhoi'r sac i un Dafydd Elis-Thomas fel cadeirydd un o bwyllgorau'r Cynulliad meddai Cadeirydd Plaid Cymru.

Yn ol Dafydd Trystan Davies mae angen i Plaid fod yn "ddisgybledig" fel ei bod hi'n medru cyflwyno agenda "flaengar a phositif".

Mi wnaeth arweinydd Plaid Cymru y penderfyniad ar ol i'r AC feirniadu'r ffordd yr oedd hi wedi ymosod ar UKIP yn ddiweddar. Roedd Dafydd Elis-Thomas wedi dweud bod ymosodiad o'r fath yn ystod cynhadledd wanwyn y blaid yn un "arwynebol".

Wrth siarad ar raglen wleidyddol y BBC, Sunday Politics Wales mi oedd Mr Davies yn amddiffyn yr hyn wnaeth Ms Wood. Dyw Dafydd Elis-Thomas nawr ddim yn gadeirydd y pwyllgor amgylchedd nac yn llefarydd trafnidiaeth i'r blaid.

Mae Dafydd Trystan Davies yn pwysleisio bod penodi cadeiryddion ar gyfer pwyllgorau'r cynulliad yn fater i'r arweinydd a'r blaid wleidyddol.

"Mae felly yn hollol briodol pan mae mater o ddisgyblaeth yn codi bod arweinydd y blaid yn medru defnyddio pob dull sydd ar gael iddi."

Dywedodd: "Mae wedi bod yn bendant, mae wedi bod yn glir ac mae Plaid yn cyflwyno'r neges bositif yna i'r pleidleiswyr."

Ychwanegodd bod camau tebyg wedi eu cymryd gan bleidiau eraill: "Mae yna broses ac mae'r broses yna wedi cael ei dilyn."