Casnewydd 1-1 Caerwysg

Lee Minshull equalises for Newport County against Exeter City Image copyright Huw Evans picture agency

Casnewydd 1-1 Caerwysg

Cyfartal oedd y sgôr terfynol rhwng Casnewydd a Chaerwysg brynhawn Sul.

Siomedig oedd perfformiad y ddau dîm yr hanner cyntaf. Ond daeth gôl yn gyflym yn yr ail hanner gyda Harry Worley o Gasnewydd yn sgorio drwy ei rhwyd ei hun.

Ond doedd Caerwysg ddim ar y blaen am gyfnod hir iawn. O fewn ychydig funudau roedd Casnewydd yn gyfartal. Lee Minshull gafodd y gôl.

Mae'r canlyniad yn golygu bod y ddau dîm ond wedi curo unwaith yn ystod yr 14 gêm ddiwethaf ac mae Casnewydd yn y 14eg safle yn adran 2.

Straeon perthnasol