Cwpan y Byd yn dod i Gaerdydd
- Cyhoeddwyd
Cafodd cefnogwyr pêl droed gyfle i weld Cwpan y Byd Fifa yng Nghaerdydd a hynny cyn i'r bencampwriaeth ddechrau'r haf yma ym Mrasil.
Daeth tua 6,000 o bobl i ardal Yr Aes i weld y tlws aur.
Roedd cyn chwaraewyr Cymru, Terry Medwin a Colin Baker yno hefyd. Mi oedd y ddau yn rhan o'r tîm wnaeth gystadlu yng Nghwpan y Byd yn Sweden yn 1958.
Mae'r cwpan yn teithio o gwmpas y byd gan ymweld ag 88 o wledydd.
Mi oedd cefnogwyr yn medru cael llun o'u hunain efo'r cwpan. Dyma'r trydydd gwaith i'r tlws deithio o gwmpas y byd. Mi fydd yn mynd o Gaerdydd i Fanceinion nesaf.
Erbyn diwedd y daith mi fydd wedi teithio 100,000 o filltiroedd ar draws chwe chyfandir.
Unig ymddangosiad Cymru yng Nghwpan y Byd oedd yn 1958 yn Sweden. Adeg hynny mi gafodd Cymru ei threchu gan Brazil yn y rownd go gyn derfynol.
Wnaeth Cymru ddim llwyddo i gael lle yn y gystadleuaeth eleni.