Hwylfyrddiwr profiadol wedi boddi

  • Cyhoeddwyd
Vic Pinheiro
Disgrifiad o’r llun,
Roedd Vic Pinheiro yn dysgu hwylfyrddio yng Nghlwb Hwylio'r Mwmbwls

Mae hwylfyrddiwr profiadol wedi marw mewn damwain ar yr Ynysoedd Dedwydd.

Bu farw Vic Pinheiro, 64 oed, o Abertawe, tra'n hwylfyrddio.

Roedd Mr Pinheiro yn hyfforddwr hwylfyrddio yng Nghlwb Hwylio'r Mwmbwls, ac roedd wedi dysgu cannoedd o bobl sut i hwylfyrddio.

Roedd yn teithio dramor yn aml ac roedd yn El Medina yn Tenerife pan fu farw, ardal sy'n adnabyddus am fod yn le da i hwylfyrddio.

Dywedodd y capten hwylio'r clwb yn y Mwmbwls, Tim Ley: "Mae'n gadael rhodd arbennig o fod wedi creu nifer o hwylfyrddwyr. Fe'n gadawodd ni tra'n gwneud yr hyn roedd o'n ei garu."

Dywedodd llywydd y clwb ei fod yn golled drasig i'r gamp: "Roedd wedi gweithio fel ein prif hyfforddwr, gan fentora cannoedd o blant ac oedolion i hwylio a hwylfyrddio.

Fe gafodd ei angladd ei gynnal yn Tenerife a bydd gwasanaeth coffa yn cael ei chynnal yng Nghymru.

Mae llefarydd ar ran y Swyddfa Dramor yn dweud eu bod yn ymwybodol o farwolaeth Prydeiniwr ar Fawrth 6 yn Tenerife, a'u bod yn cynnig cymorth i'r teulu yn y cyfnod anodd hwn.