Gwirfoddolwyr i gadw llyfrgell Cei Newydd ar agor

  • Cyhoeddwyd
Library (generic)
Disgrifiad o’r llun,
Mae 25 o bobl wedi gwirfoddoli i gynnal y gwasanaeth llyfrgell

Mae Cyngor Ceredigion wedi rhoi sêl bendith i gynllun i gadw llyfrgell Cei Newydd ar agor.

Daw hyn ar ôl i 25 o bobl wirfoddoli gyda'r gwaith o gynnal y gwasanaeth.

Mae Cyngor Ceredigion wedi cytuno i roi'r adeilad ar les i Cyngor y Dref am flwyddyn.

Pe bai'r cynllun yn llwyddiannus, yna bydd Cyngor y Dref yn cael yr opsiwn o ymestyn hyd y cytundeb i bum mlynedd.

Dim ond rhent symbolaidd fydd yn cael ei godi gan y sir.

Y bwriad gwreiddiol oedd cau'r llyfrgell, oedd yn costio £1,740 i'w staffio bob blwyddyn, a chyflwyno llyfrgell symudol.

Mae'r cyngor yn parhau i drafod ynglŷn â chynlluniau tebyg i geisio achub llyfrgell Tregaron.

Mae Cyngor Ceredigion yn ceisio cau bwlch o £20 miliwn yn eu cyllideb dros gyfnod o dair blynedd.

Roedd 600 o bobl wedi arwyddo deiseb yn gwrthwynebu cau'r llyfrgell yng Nghei Newydd.

Ar hyn o bryd mae'r adeilad ar agor am 10 awr dros gyfnod o bedwar diwrnod yr wythnos.

Yn Nhregaron, roedd yna fwriad i gau'r llyfrgell ym mis Ebrill, gyda llyfrgellydd yno yn symud i weithio i Aberystwyth.

Ond yn dilyn cyfarfod cyhoeddus gwnaed cais i'r cyngor sir i ystyried cadw'r llyfrgellydd yn Nhregaron am dri diwrnod, gyda gwirfoddolwyr yn cadw'r adeilad ar agor gweddill yr amser.