Athrawes yn cyfaddef i droseddau rhyw
- Cyhoeddwyd

Mae athrawes 26 oed wedi pledio'n euog i bedwar achos o droseddau rhywiol yn erbyn bachgen ysgol rhwng 13 ac 17 oed.
Fe gyfaddefodd Kelly Ann-Marie Burgess o Gasnewydd iddi gam-ddefnyddio'i safle pan ymddangosodd o flaen llys ynadon gogledd Gwlad yr Haf.
Fe ddaeth yr achosion i'r amlwg pan ymwelodd y bachgen â chlinig iechyd rhyw a dweud wrth nyrs ei fod wedi bod neu yn dal mewn perthynas rywiol gydag athrawes.
Mi fydd Burgess yn ymddangos yn Llys y Goron Bryste ar Ebrill 7 ar gyfer ei dedfrydu.
Dywedodd yr erlynydd, Michael Collins, wrth y llys bod y nyrs wedi esbonio bod ganddi bryderon am ddatganiadau'r bachgen ac fe adawodd o'r ystafell gan ddychwelyd gyda Burgess, wnaeth roi enw ffug.
"Paid â tecstio'n ôl"
Fe ddechreuodd ymchwiliad yr heddlu ac fe gafodd Burgess ei arestio ar Awst 28.
Yn ystod archwiliad o'i chartref, fe edrychodd swyddogion ar ei ffôn symudol ac fe gafwyd hyd i neges oddi wrth y bachgen.
Roedd yn darllen: "Mae'r heddlu yma. Paid â tecstio'n ôl, paid â bod ofn."
"Jyst gwna'n siwr fod gen ti dy stori erbyn pan y daw nhw amdanat ti."
Ar ôl gwadu'n wreiddiol ei bod mewn perthynas â'r bachgen, fe gyfaddefodd Burgess ei bod hi wedi bod mewn perthynas gyda fo rhwng Ionawr 1 ac Awst 28, 2013.
Dywedodd Mr Collins ei bod hi wedi dweud nad oedd hi'n ymwybodol bod unrhywbeth yn anghyfreithlon, gan ei fod wedi cyrraedd oedran cydsynio.
Dywedodd Sue Cameron oedd yn cynrychioli Burgess bod "ffactorau lliniarus nad ydw i am eu trafod heddiw" ac ni wrthwynebodd yr achos i fynd i lys y goron ar gyfer dedfrydu.
Mae Ms Burgess wedi cael ei gwahardd o'i gwaith.