Streic mewn ysgol ym Mhowys oherwydd ffrae am gyflogau

  • Cyhoeddwyd
Streic Ysgol
Disgrifiad o’r llun,
Mae athrawon Ysgol Maesydderwen yn streicio am dri diwrnod oherwydd ffrae gyda llywodraethwyr am gyflogau

Mi fydd athrawon mewn ysgol uwchradd ym Mhowys yn streicio am dri diwrnod oherwydd ffrae sydd wedi codi am gyflogau staff yno.

Bydd aelodau undebau athrawon yr NASUWT a'r NUT yn cerdded allan o Ysgol Maesydderwen yn Ystradgynlais, ar ddydd Mawrth, Mercher ac Iau (Mawrth 18 i 20).

Yn ôl yr undebau mae llywodraethwyr yr ysgol wedi mabwysiadu un o bolisiau Michael Gove, Ysgrifennydd Addysg Llywodraeth San Steffan, sydd yn rhoi'r grym i lywodraethwyr newid termau cyflogau athrawon.

Ond mae llywodraethwyr yr ysgol wedi barnu penderfyniad yr undebau i fynd ar streic.

'Polisi o Loegr'

Mae'r newidiadau yn golygu nad oes rhaid i lywodraethwyr ysgolion gytuno i roi'r un cyflog i athro a'r cyflog yr oedd yn ei ennill yn ei swydd flaenorol.

Cafodd y polisi ei benderfynu ar lefel ranbarthol gan 'Ein Rhanbarth ar Waith' (ERW) - consortia gafodd ei sefydlu ar gyfer gwella safon addysg yn ardaloedd Ceredigion, Powys, Penfro ac Abertawe.

Roedd yr athrawon am streicio am dri diwrnod ar ddechrau'r mis, ond cafodd y gweithredu ei ddiddymu er mwyn rhoi mwy o amser i drafodaethau gael eu cynnal.

Meddai David Evans, Ysgrifennydd NUT Cymru: "Rydym wedi rhoi pob cyfle i'r llywodraethwyr gyfaddawdu ac yn gofyn iddyn nhw ohirio gweithredu'r polisi yma er mwyn i ni gynnal mwy o drafodaethau. Ond yn anffodus rydym wedi cyfarfod set o lywodraethwyr sydd ddim eisiau trafod.''

Ychwanegodd Rex Phillips, Trefnydd NASUWT Cymru: "Y cam olaf ydi gweithredu streic ac mae pob ymdrech wedi cael ei wneud gan yr undebau i osgoi hyn.

"Maen nhw wedi manteisio ar y cyfle a roddwyd iddyn nhw gan awdurdod lleol Powys a chonsortiwm ERW, i fabwysiadu polisïau Michael Gove a chytuno gyda dogfen 'Tâl ac Amodau Gwaith Athrawon' sydd yn dileu'r angen i fatsio cyflog presennol athro pan mae'n ymuno gyda'r ysgol.''

'Trin yn wahanol'

Mae Sally Speedy, prifathrawes yr ysgol, a Hugh Pattrick, cadeirydd y llywodraethwyr, yn dweud bod yr ysgol yn cael ei thrin yn wahanol gan yr undebau.

Mewn datganiad dywedodd Ms Speedy a Mr Pattrick: "Rydym yn siomedig iawn bod ein hysgol yn mynd i gael ei heffeithio gan y streic yma fydd yn aflonyddu ar addysg ein disgyblion ar amser pwysig oherwydd fe fyddent yn eistedd arholiadau yn fuan.

"Nid Maesydderwen yw'r unig ysgol i fabwysiadu'r polisi ac mae eisoes wedi cael ei fabwysiadu gan 500 o ysgolion o fewn y rhanbarth.

"Ond ni yw'r unig ysgol sy'n wynebu streicio hyd yma, ac ar hyn o bryd dydyn ni ddim yn deall pam bod ein hysgol yn cael ei thrin yn wahanol."

Dywedodd Cyngor Powys fod yr ysgol am fod ar gau yn ystod dyddiau'r streic, ond fe fydd yn parhau i fod ar agor i ddisgyblion sydd yn sefyll arholiadau.

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol