Dynes yn fyw ac iach
- Cyhoeddwyd

Roedd yr heddlu wedi cael eu galw am ddiflaniad y wraig am 8.30 nos Lun
Mae Gwylwyr y Glannau yn Aberdaugleddau yn dweud eu bod wedi dod o hyd i wraig fu ar goll.
Fe ddaethwyd o hyd i'r wraig 66 oed yn iach a diogel yn oriau mân y bore.
Dywedodd gwylwyr y glannau ei bod yn edrych yn ofidus.
Roedd yr heddlu wedi cael eu galw am ddiflaniad y wraig am 8.30 nos Lun.
Bu tîm gwylwyr y glannau'n chwilio aber yr afon Teifi.
Does dim mwy o wybodaeth ar hyn o bryd.