Nigel Evans wedi 'rhoi ei ddwylo dros' ddyn
- Cyhoeddwyd

Mae Llys y Goron Preston wedi clywed bod cyn ddirprwy lefarydd Tŷ'r Cyffredin, Nigel Evans wedi rhoi ei ddwylo dros gorff gweithiwr yn San Steffan ac wedi ceisio ei gusanu.
Dywedodd y dyn bod ymddygiad yr AS wedi bod yn "sioc" ar ôl iddyn nhw fod yn yfed gyda chyd-weithwyr.
Mae Mr Evans, sy'n 56, yn gwadu un cyhuddiad o dreisio, dau o ymosod yn anweddus a chwech o ymosod yn rhywiol.
Dywedodd y tyst ei fod wedi bod yn yfed yn Strangers Bar yn Nhŷ'r Cyffredin ym mis Chwefror 2011 pan ddaeth Mr Evans ato gyda gwydriad o champagne a'i wahodd i ymuno a'i grwp.
Honnodd bod Mr Evans wedi gwahodd y grwp i ymuno ag ef mewn ystafell gyfarfod yn agos i'w swyddfa.
Cyfaddefodd y tyst ei fod wedi bod yn yfed ar y pryd, a bod Mr Evans wedi ei arwain i lawr coridor tuag at ei gegin.
'Dwylo drosto fi'
Dywedodd ei fod wedi cael ei wthio i mewn i'r gegin, ac ychwanegodd: "Roedd hi'n hollol dywyll ac yna yn sydyn iawn daeth ymlaen a rhoi ei ddwylo drosto fi a cheisio fy nghusanu.
"Aeth a fy llaw a'i roi ar ei 'crotch'. Teimlais ei wefusau ar fy rhai i ar y pwynt yna," meddai.
Ychwanegodd y tyst bod Mr Evans wedi ei gyffwrdd ar ei ben-ôl, ond na ddywedodd dim oherwydd ei fod mewn "sioc".
Dywedodd ei fod wedi gwthio'r AS i ffwrdd, cyn dweud wrth ffrindiau am yr hyn ddigwyddodd.
Clywodd y llys bod y tyst wedi bod yn hoff o Mr Evans cyn y digwyddiad, ac felly wedi derbyn bod yr AS wedi mynd dros ben llestri a'i anghofio.
Ychwanegod: "Hefyd, yn y Senedd, dwi ddim yn meddwl bod gan bobl lawer o hyder mewn adrodd unrhyw beth am ASau."
Mae'r achos yn parhau.