Cerdyn llyfrgell i bob plentyn ysgol gynradd yng Nghymru

  • Cyhoeddwyd
Plant mewn llyfrgell
Disgrifiad o’r llun,
Nod yr ymgyrch yw darparu cerdyn llyfrgell ar gyfer pob plentyn ysgol gynradd yng Nghymru

Mae ymgyrch yn dechrau sy'n anelu yn y pen draw at sicrhau tocyn llyfrgell i bob plentyn ysgol gynradd yng Nghymru.

Llyfrgelloedd Cymru ac ysgolion cynradd sy'n lansio'r ymgyrch fydd yn cychwyn yn siroedd Blaenau Gwent, Sir y Fflint, Gwynedd, Merthyr Tudful, Powys ac Abertawe.

Ar y cychwyn y nod fydd darparu ar gyfer plant wyth a naw oed.

Dywedodd y Gweinidog Diwylliant John Griffiths: "Mae'r cysylltiad rhwng defnyddio llyfrgelloedd a lefelau llythrennedd yn hysbys.

"Y llynedd roedd dros 42,000 o blant yng Nghymru yn her darllen yr haf yn 245 o lyfrgelloedd.

"Mae'r plant hynny wedi cynnal neu wella eu lefelau darllen ac rydym yn gobeithio adeiladu ar hyn drwy roi'r cyfle i bob plentyn ddefnyddio eu llyfrgell i fenthyg llyfrau a chael mynediad i'r gwasanaethau eraill sydd ar gael."

14.7m o ymweliadau

Yn ôl ffigyrau y Sefydliad Siartredig Cyllid Cyhoeddus a Chyfrifeg:

  • Roedd dros 14.7 miliwn o ymweliadau â llyfrgelloedd cyhoeddus Cymru yn 2011-12;
  • Nifer benthycwyr o lyfrgelloedd yng Nghymru yw 706,464, 23% o'r boblogaeth;
  • Fe gafodd dros 13.7 miliwn o lyfrau eu benthyg o lyfrgelloedd cyhoeddus Cymru yn 2011-12;
  • Deliodd staff â dros 1.9 miliwn o ymholiadau yn 2011-12;
  • Y llyfrgell brysuraf yng Nghymru yn 2010-11 oedd Llyfrgell Ganolog Caerdydd lle oedd dros 598,000 o ymweliadau.

Mae'r ymgyrch yn cael ei lansio yn Llyfrgell Tredegar ddydd Mercher.

Yno mae disgyblion Ysgol Gynradd Bryn Bach a dywedodd eu hathro Sam Jones: "Mae mynd â'r plant i mewn i lyfrgell fel eu bod yn dewis eu llyfrau, yn trafod eu ffefrynnau, yn wych.

"Ac os gallwn ni annog y plant i ddefnyddio'r llyfrgell bydd yn sicr yn cael effaith bositif ar eu gwaith yn yr ystafell ddosbarth."

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol