Michaela Breeze yn torri record Prydain am godi pwysau

  • Cyhoeddwyd
Michaela Breeze in action at the Melbourne Commonwealth Games in 2006Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,
Michaela Breeze yn ennill medal aur yn Gemau'r Gymanwlad yn 2006 yn Melbourne

Mae'r codwr pwysau Michaela Breeze wedi cyrraedd y safon i gystadlu yn Gemau'r Gymanwlad yn Glasgow ym mis Gorffennaf.

Wrth wneud fe dorrodd record Prydain trwy godi 93kg yn y gystadleuaeth cipiad (snatch) ym Mhencampwriaeth Cymru yng Nghaerdydd.

Roedd Breeze, a enillodd fedal aur yn y Gemau yn 2002 a 2006, wedi ymddeol tan iddi gyhoeddi ym mis Rhagfyr y llynedd ei bod wedi ailfeddwl.

Hi oedd capten tîm Cymru yn Gemau'r Gymanwlad yn Delhi bedair blynedd yn ôl, ac enillodd fedal arian yn y categori 63kg.

Mae dwy arall - Stephanie Owens a Christie Williams - hefyd wedi cyrraedd y safon am eu categorïau ar gyfer Glasgow.

Dywedodd cyfarwyddwr perfformio Cymru Simon Roach ei fod wrth ei fodd.

"Eisoes mae gennym fwy o gystadleuwyr yn cyrraedd y safon A nad oedd gennym yn Gemau'r Gymanwlad yn y gorffennol," meddai.

"Mae Michaela yn gwella y gyda phob cystadleuaeth ac mae record Prydain arall yn orchest anhygoel."