BBC Cymru Fyw

Wrecsam 2 - 0 Henffordd

Published
Wrecsam 2 - 0 Henffordd
Mae Wrecsam wedi curo Henffordd 2-0 ar y Cae Ras yng Nghynghrair Skrill nos Fawrth.
Roedd torcalon i Henffordd yn y funud gyntaf wrth i Luke Graham roi'r bêl yn ei rwyd ei hun wedi eiliadau cynta'r gêm.
Wedi 68 munud, fe ddyblodd Mark Carrington fantais y Dreigiau.
Fe gafodd Henffordd ambell i gyfle i daro 'nol, ond 2-0 oedd y sgôr derfynol.