Gwrthod cais am amlosgfa ddadleuol yn Llanelwy
- Cyhoeddwyd

Mae cais i adeiladu amlosgfa newydd yn Llanelwy wedi cael ei wrthod, er i swyddogion Cyngor Sir Ddinbych argymell ei gymeradwyo.
Roedd tua 30 o brotestwyr, sydd yn gwrthwynebu'r datblygiad, wedi mynychu cyfarfod Pwyllgor Cynllunio Sir Ddinbych fore Mercher.
Penderfynodd aelodau o'r pwyllgor wrthod y cais gan gwmni Memoria.
Bydd cyfle i'r cwmni apelio.
Roedd y cwmni o Chichester yn honni bod amseroedd aros yn amlosgfeydd Bae Colwyn a Wrecsam yn amlygu'r angen am un arall yng ngogledd ddwyrain Cymru.
Ond roedd gwrthwynebiad cryf i'r cynllun i adeiladu un newydd ar barc busnes Llanelwy, ger Glascoed, gan bobl leol.
Dywedodd un cwmni, sydd a'i bencadlys ar y parc busnes, na fydden nhw wedi sefydlu eu hunain yno petae nhw'n gwybod am y cynllun.
'Colli tir amaethyddol'
Ddydd Mercher, penderfynodd aelodau o'r pwyllgor cynllunio bleidleisio yn erbyn y cais.
Penderfynon nhw nad oedd y cynllun yn cyd-fynd a'r cynllun datblygu lleol, y byddai'n golygu colli tir amaethyddol da a gallai greu problemau mynediad i'r safle.
Cyn y penderfyniad, roedd cwmni Offshore Wind Power Marine Services, wedi gwrthwynebu'r cynllun ar ôl iddyn nhw sefydlu pencadlys y cwmni yn y DU yn y parc busnes 18 mis yn ôl.
Dywedodd y cyfarwyddwr masnachol, Paul Walsh, y byddai adeiladu amlosgfa a chreu "llif cyson o draffig angladd" hefyd yn creu "ffactor morbid" yn yr ardal.
Ychwanegodd: "Y lôn drwy'r parc fydd y prif lwybr i'r amlosgfa o'r A55, a dydyn ni ddim yn teimlo y bydd hynny'n ffafriol i fusnes o safon uchel."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd19 Mawrth 2014
- Cyhoeddwyd4 Tachwedd 2013