Ymateb i Gyllideb 2014
- Cyhoeddwyd
Roedd digon o ddeunydd i gnoi cîl arno yng nghyllideb y Canghellor George Osbourne yn gynharach, a daeth digon o ymateb o fyd busnes a gwleidyddiaeth i'w gynlluniau hefyd.
Roedd hon yn gyllideb ar gyfer y ''gwneuthurwyr a'r cynilwyr'' meddai Mr Osbourne, gyda phwyslais ar ddiwygio'r gyfundrefn bensiwn, hybu allforion a gweithgynhyrchu, a chynnig cymorth i gwmnïau sydd yn wynebu biliau ynni uchel.
Cafodd y gyllideb ei chroesawu gan Ffederasiwn Busnesau Bach Cymru, sydd yn credu fod cynlluniau'r Canghellor yn adlewyrchu'r tŵf presennol yn yr economi, a chynnal y momentwm ar gyfer tŵf i'r dyfodol.
'Neges glir i fusnesau'
Dywedodd Janet Jones, cadeirydd uned bolisi Cymru o'r Ffederasiwn Busnesau Bach: ''Roedd hon wastad yn mynd i fod yn gyllideb 'ara-deg wrth fynd ymlaen' i fusnesau, wedi ei gynllunio i roi trefn ar faterion ariannol y DU.
''Roedd y gyllideb heddiw yn anfon neges glir i fusnesau i dyfu trwy'r cynnydd yn y lwfansau buddsoddi a chanolbwyntio ar weithgynhyrchu. Mae'r pecyn £7 biliwn i dorri biliau ynni'r sector gweithgynhyrchu yn mynd i fod o gymorth i greu swyddi a chryfhau'r sector pwysig hwn.''
'Cyfle wedi ei golli'
Cafodd manylion y gyllideb lai o groeso gan Lywodraeth Cymru. Meddai Jane Hutt, Gweinidog Cyllid Llywodraeth Cymru: ''Mae Cyllideb Llywodraeth y DU yn gyfle sydd wedi ei golli i Gymru, ac yn gwneud dim i hybu tŵf economaidd.''
Ond fe groesawodd y Gweinidog y cadarnhâd fod Mesur Cymru yn cael ei gyhoeddi ddydd Iau, gan ddweud ei fod yn gam pwysig ymlaen fydd yn dod â Chymru yn agosach at dderbyn yr hawl hanfodol i fenthyg arian er mwyn buddsoddi yn isadeiledd Cymru.
Fe fydd Llywodraeth Cymru'n derbyn £36m yn ychwanegol dros y ddwy flynedd nesaf o ganlyniad i'r gyllideb gyhoeddwyd heddiw.
Mae'r cynnydd bychan - sy'n dod o ganlyniad i gynnydd mewn gwariant yn Lloegr - yn cynrychioli ychydig dros 0.1% o gyllideb Llywodraeth Cymru.
Dywedodd Llywodraeth Cymru fod eu cyllideb wedi ei dorri o 10% ers 2010, a bod gostyngiad o 31% mewn termau real yng nghyllideb cyfalaf Cymru rhwng 2009-10 a 2015-16.
Codi'r trothwy treth
Redd y Democratiaid Rhyddfrydol yn hawlio rhywfaint o'r clod am rai o gyhoeddiadau'r gyllideb. Yn ôl Kirsty Williams, arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol Cymreig:
''Heddiw mae'r Democratiaid Rhyddfrydol wedi llwyddo i godi'r trothwy treth i £10,500. Mae hyn yn golygu fod 1,160,000 o bobl yng Nghymru wedi gweld gostyngiad o £800 yn eu trethi ers i'r Democratiaid Rhyddfrydol ddod yn rhan o'r glymblaid.
''Cyn yr etholiad cyffredinol, fe ddywedodd David Cameron fod cynnig y Democratiaid Rhyddfrydol i godi'r trothwy treth yn anfforddiadwy. Rwyf yn falch ein bod wedi ei brofi yn anghywir.
''Rwyf yn croesawu camau pellach i gynnig cymorth i fusnesau...fe fydd mwy o help i fusnesau bychain wrth ddyblu'r swm y gall cwmnïau ei fuddsoddi yn ddi-dreth i £500,000.''
Wrth ymateb i'r Gyllideb, dywedodd Arweinydd Plaid Cymru yn San Steffan, Elfyn Llwyd AS:
"Roedd hon yn Gyllideb gymysg ond ar y cyfan, mae methiant y Canghellor i gyflawni ei addewid i ailgydbwyso economi'r DU wedi taflu cysgod drosti.
"Ar hyn o bryd, mae'r DU yn profi adferiad côd-post ble fo'r bwlch rhwng y cyfoethog a'r tlawd yn tyfu, a chyfoeth y pen mewn rhannau o Orllewin Llundain ddeuddeg gwaith yn fwy nag yn Ynys Môn.
"Mae Plaid Cymru yn croesawu codi'r trothwy lwfans treth incwm i £ 10,500 yn ogystal â rhewi treth tanwydd, er y byddai'n well gennym pe byddai'r Canghellor wedi cyflwyno rheolydd treth tanwydd yn hytrach na datrysiad dros dro.
'Colli cyfle'
"Fodd bynnag, rydym yn teimlo fod y Canghellor wedi colli cyfle ble fo cyhoeddi prosiectau uchelgeisiol i fuddsoddi mewn isadeiledd y tu allan i Lundain a De-ddwyrain Lloegr yn y cwestiwn.
"Mae adferiad economaidd yng Nghymru yn parhau i fod yn flaenoriaeth i Blaid Cymru ac felly mae'n siomedig i beidio â gweld cynnydd ar sefydlu Banc Cymru i roi benthyg i fusnesau bach a chanolig, Mesur Tegwch Economaidd i flaenoriaethu buddsoddiad mewn rhanbarthau sy'n tan-berfformio, a mwy o ymdrechion i gyflwyno cyflog byw ar gyfer gweithwyr incwm-isel.
"Byddem hefyd wedi hoffi clywed y Canghellor yn cyhoeddi cynlluniau i gael gwared ar Trident a fyddai'n arbed swm anhygoel o £100bn y gellid ei wario'n well ar wasanaethau cyhoeddus, Treth 'Twm Sion Cati' a fyddai'n codi £20bn y flwyddyn, ac ymdrechion mwy cadarn i fynd i'r afael â chwmniau sy'n osgoi talu treth."
Croeso mwy llugoer ddaeth o adain Gymreig cwmni Grant Thornton, sy'n credu fod y gyllideb wedi methu â chynnig cymorth pwrpasol i fusnesau bychain a chanolig eu maint.
Yn ôl Louise Evans, pennaeth treth swyddfa Grant Thornton yng Nghymru: ''Mae ein hymchwil ni yn adlewyrchu anghenion cwmnïau bychain a chanolig eu maint - sydd yn cyflogi rhwng 50 a 499 o bobl. Roedd y cwmnïau hyn yn galw am fwy o gymorth mewn tair ardal benodol - sef yr angen am gymorth i allforio mwy, mwy o leihad ar drethu swyddi, a chynnig gwell cymorth i fenthyg arian.''
Hybu tŵf
''Mae'n rhaid croesawu cyllideb ar gyfer cynilwyr a phensiynwyr. Ond oni ddylai cyllideb heddiw fod yn canolbwyntio mwy ar dyfiant? Fe ddylai hybu tŵf i gwmnïau deinamig sydd yn torri tir newydd, yn allforio ac yn cyflogi, fod wedi bod yn uwch ar yr agenda.''
Daeth croeso i'r cyhoeddiad na fydd cynnydd yn y dreth ar danwydd gan un cwmni cludo nwyddau o Gaerdydd.
Yn ô Geoff Tomlinson, Rheolwr Gyfarwyddwr cwmni Freight Systems Express Wales: "Mae'r cyhoeddiad na fydd y cynnydd yn y dreth ar danwydd, oedd i fod i ddod i rym ym mis Medi, yn mynd yn ei flaen yn newyddion da i ni ac i lawer o fusnesau yn ein diwydiant.
'Cymorth i allforwyr i'w groesawu'
''Mae unrhyw gyhoeddiad sydd yn canolbwyntio ar gynyddu allforion hefyd yn newyddion da i ni - po fwyaf y mae busnesau yn allforio, y mwya' o waith cludo fydd i ni. O ganlyniad mae cymorth Mr Osborne i allforwyr i'w groesawu.
''Mae'r newyddion fod cynnydd am fod yng nghyllideb Llywodraeth Cymru hefyd am fod o fantais i ni am ei fod yn golygu y bydd arian ar gael i welliannau hir ddisgwyliedig i'r M4 - cyswllt trafnidiaeth hanfodol i economi de Cymru.''
Dywedodd y Swyddfa Gymreig y bydd Mesur Cymru, fydd yn cael ei gyhoeddi ddydd Iau, yn galluogi Llywodraeth Cymru i godi mwy o arian y mae'n ei wario ac yn darparu cyfleoedd i'r llywodraeth i dyfu'r economi.