Arolwg i hunanladdiad ymysg yr ifanc

  • Cyhoeddwyd
PlentynFfynhonnell y llun, Science Photo Library
Disgrifiad o’r llun,
Mae angen gwneud mwy i herio stigma hunanladdiad, yn ôl yr arolwg

Codi isafswm pris alcohol yw un o argymhellion arolwg oedd yn edrych ar sut i leihau'r nifer o blant sy'n lladd eu hunain yng Nghymru.

Fe wnaeth ymchwiliad i hunanladdiad 34 o blant rhwng 2006 a 2012 ganfod bod alcohol neu gyffuriau yn broblem yn nifer yr achosion.

Nawr, mae'r Rhaglen Adolygu Marwolaethau Plant wedi cynnig nifer o argymhellion i ddatrys y broblem.

Fe ddywedodd y Gweinidog Iechyd, Mark Drakeford, bod gostwng risg hunanladdiad yn hanfodol.

Fe edrychodd ar adroddiad y rhaglen ar ba ffactorau gyfranodd at y 34 hunanladdiad, yn ogystal â chyfleoedd i'w rhwystro rhag digwydd.

O'r marwolaethau oedd yn rhan o'r arolwg, roedd diffyg cyrhaeddiad yn yr ysgol, defnydd o alcohol a chyffuriau, esgeulustod, camdriniaeth a hunan niweidio yn ffactorau cyffredin.

Fe ddywedodd y panel oedd yn gyfrifol am yr arolwg bod angen i deuluoedd, ysgolion a gwasanaethau eraill gyfathrebu a chyd-dynnu yn well er mwyn atal hunanladdiad ymysg plant.

Meddai'r panel, doedd system y gofrestr gwarchod plant ddim mor effeithiol ag y gallai fod er mwyn adnabod plant oedd mewn peryg o hunan niweidio.

'Herio stigma'

Gallai rhaglenni atal hunanladdiad mewn ysgolion gael eu datblygu, ac mae angen gwneud mwy i herio stigma hunanladdiad, all fod yn rhwystro pobl rhag gofyn am gymorth, meddai.

Roedd cyfeiriad at wefannau cymdeithasol ynghlwm â rhai o'r marwolaethau, ond fe fethodd yr adroddiad ag asesu pa ran y gallen nhw chwarae - fel ffactor, a chyfle i rwystro hunanladdiad.

Mae'r rhaglen wedi cynnig nifer o argymhellion i geisio dod â nifer yr hunanladdiadau ymysg pobl ifanc i lawr.

Yn eu mysg, mae:

  • Cyfyngu argaeledd alcohol i blant drwy godi isafswm, rheoleiddio marchnata ac argaeledd a gweithredu yn erbyn rhai sy'n gwerthu i blant dan oed;
  • Datblygu cofrestr gwarchod plant ledled Cymru fyddai gwasanaethau perthnasol megis adrannau brys yn gallu edrych arno;
  • Sicrhau bod arweiniad gan Y Sefydliad Cenedlaethol dros Ragoriaeth mewn Iechyd a Gofal (NICE) ar reoli hunan-niweidio ar waith yng Nghymru;
  • Sicrhau bod rhaglenni atal hunanladdiad wedi eu selio ar y dystiolaeth ddiweddara';
  • Adolygu datblygiad yn y ddarpariaeth atal hunanladdiad yng Nghymru bob tair blynedd.

'Ymchwil anodd'

Fe ddywedodd Dr Ann John o Iechyd Cyhoeddus Cymru, arweinydd clinigol yr arolwg, bod yr arolwg yn allweddol i leihau risg hunanladdiad ymysg plant a phobl ifanc yng Nghymru.

"Dyw hunanladdiadau ddim yn anochel ac mae gennym ni gyd ein rhan i chwarae i rwystro marwolaethau pellach,'' dywedodd.

Fe groesawodd y Gweinidog Iechyd Mark Drakeford yr adroddiad.

"Mae hwn yn faes ymchwil anodd iawn, ond mae'n hanfodol ein bod ni'n ceisio deall achos hunanladdiad plentyndod er mwyn adnabod cyfleoedd i'w atal a lleihau'r risg," meddai.

Fe ddywedodd Sarah Stone o elusen y Samariaid yng Nghymru ei bod hi'n falch o weld argymhellion yn hybu cyfathrebu rhwng y llywodraeth, cyrff proffesiynol a'r trydydd sector i atal hunanladdiad.

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol